Tudalen:Cwm Eithin.djvu/210

Gwirwyd y dudalen hon

Yn fuan ar ôl i ni symud i Gwm Eithin, yng nghanol brwydr addysg, daeth ffarmwr cefnog, cymydog, i'm cartref, un o arweinwyr capel bach Cwm Eithin. Yr oedd golwg gwyllt arno, fel pe newydd ddyfod allan o un o gyfarfodydd yr Ysgol Gerrig. Meddai wrth fy mam:—

"Yr oedd Huw bach yn ateb yn dda iawn i Robert Owen yn Sasiwn y Plant. A wnewch chwi adael iddo fyned i'r Ysgol? Os gwnewch, fe dala i am ei ysgol o am y flwyddyn gyntaf."

Diolchodd fy mam yn gynnes iawn iddo, ac addawodd y cawn fyned cyn gynted ag y gallai fy nghael yn barod. Aeth fy mam ati i daclu fy nillad. Yr oedd fy nhaid wedi fy nysgu i ysgrifennu rhyw ychydig cynt, a dysgodd yr A.B. Saesneg, a'r "Twice one are two" i mi tra y bûm yn paratoi, ac aeth trwy ei gypyrddaid o lyfrau Saesneg—ni feddai yr un Cymraeg ond y Beibl. Tynnodd oddi yno Eiriadur Cymraeg a Saesneg, gan T. Lewis ac eraill, Caerfyrddin, 1805; 'rwyf wedi ei drysori o hynny hyd yn awr. Nid oedd gennyf y syniad lleiaf beth oedd yng nghrombil llyfrau Saesneg fy nhaid, ond yr oeddwn wedi dechrau hoffi darllen a dysgu allan. Yr oedd gennyf Feibl, Rhodd Mam, Hyfforddwr a Holwyddoreg John Hughes, Lerpwl, ac yr oedd hwnnw bron i gyd ar fy nghof, a gallwn ateb cwestiynau ar hanesion y Beibl, a dywedyd beth oedd oed y byd pan anwyd llawer o gymeriadau'r Hen Destament. Wrth droi dalennau'r Geiriadur, deuthum ar draws y gair "Reverend." Gofynnais i'm taid am ei ystyr: "Dyna deitl y Personiaid," ebe yntau, "ac y maent yn galw'r hen bregethwrs yma yn Reverends yrŵan," ebe ef. Cefais ysgytiad ofnadwy i'm hysbryd. "Yr hen bregethwrs yma," gweision yr Arglwydd, yn ôl fy syniad i! Deallais mai Eglwyswr oedd fy nhaid yn ei galon, er na fu yn yr Eglwys yn fy nghof i. Bu yn mynd i gapel bach llawr pridd Cwm Annibynia amser Diwygiad '59. Dyna'r unig air bach a glywais erioed ganddo am yr Ymneilltuwyr. Yr oedd fy nain yn selog o'u plaid, wedi ei magu o dan adain Charles o'r Bala. Cynghorwyd fi i wneuthur ychydig o benselau er gwneud ffrindiau o blant Llanaled, a buont yn ddefnyddiol iawn i'r pwrpas hwnnw. Yr oedd yno ddigon o gerrig nadd yn fy nghartre, a gwnaent benselau da iawn. Yr oedd yno haen ar yr wyneb, a deuwyd o hyd i haen arall pan oedd Charles Nailor yn turio am lo.