Tudalen:Cwm Eithin.djvu/211

Gwirwyd y dudalen hon

Wele fi, ar fore Llun bythgofiadwy i mi, yn cychwyn yn swil a chrynedig. Sglaetsan yn crogi o dan fy nghesail wrth linyn dros fy ysgwydd. Llond un boced o benselau, tipyn o frechdan yn y llall i'm cinio. Yr oedd yno dair tafarn yn Llanaled. Byddwn yn arfer myned i un ohonynt i bostio llythyr, ac i un arall i werthu ambell bysgodyn. Nid oedd yn ein hafon ni y pryd hynny ond brithylliaid. Y mwyaf a gefais erioed yno oedd un deunaw owns. Cefais bris pur dda am hwnnw. Ond am y dafarn arall, ewythr a modryb i mi oedd yno. Tŷ to gwellt isel, wedi ei godi ar dair gwaith o leiaf, os nad pedair gwaith, ac yno yr oedd fy mam wedi trefnu i mi fwyta fy nghinio. Nid oedd rhaid i mi gario dim ond tipyn o frechdan i'm canlyn. Cawn ddigon o laeth neu botes, ac ambell damaid o gig. Awn trwy'r gorchwyl mawr o fwyta fy nghinio gyda'r bechgyn yn y pen ucha. Nid oedd neb yn yfed yno, a byddai Modryb yn y parlwr bach yn ymyl yn cadw chware teg i mi pan gymerid fi'n ysgafn. Cefais lawer o garedigrwydd ganddynt, ac ni wnaeth y ddiod ddim niwed iddynt hwy yn bersonol. Pan fyddai rhai wedi yfed yn dda, byddai'n rhaid cael talu am lasiaid i F'ewyrth, oherwydd yr oedd yn gwmni mor ddifyr, yn siarad a chwerthin a phrocio'r tân; ac os byddai raid iddo gymryd glasiaid, "droper o gin" a gymerai bob amser, a hynny oedd llymaid o ddŵr. Derbyniodd lawer o arian yn ystod yr hanner can mlynedd neu ragor y bu yno am lymaid o ddŵr glân. Ni ofynnodd neb i mi yfed dafn, erioed yno, ac ni feddyliais erioed am wneud. Gwelais lawer o yfed yno—yr un rhai fel rheol. Cofiaf dri o hogiau ieuainc yn dyfod yno un tro i nôl glasiaid. Edrychodd Modryb yn front arnynt, ac yn bur fuan dywedodd wrthynt am fynd adre.

Bu un tro doniol iawn yno. Yr oedd mab y Person yn hoff iawn o'r dafarn. Aeth yn ffrwgwd rhyngddo ef ac un arall wedi cael gormod. Yr oedd ganddo wasgod grand ryfeddol amdano o ddeunydd gwahanol i weddill ei ddillad, ac yn y ffrwgwd rhwygwyd y wasgod yn ddarnau. A'r cwestiwn mawr wedyn oedd sut i wynebu ei fam ar ôl mynd adre. Yr oedd ganddo fwy o ofn ei fam na'i dad, a pheth oedd i'w wneud? Wedi hir feddwl penderfynodd losgi ymylon y rhwygiadau, a myned adre a dywedyd wrth ei fam ei fod wedi digwydd rhoddi ei getyn heb ei ddiffodd yn iawn ym mhoced ei wasgod, iddi fyned ar dân, ac iddo gael dihangfa gyfyng iawn. Cafodd groeso a chydymdeimlad mawr a gwasgod newydd gan ei fam.