Tudalen:Cwm Eithin.djvu/214

Gwirwyd y dudalen hon

Cofiaf am un gweinidog yr amheuwn i yn fawr a fu ef yn blentyn erioed. Byddai'n sôn am yr amser yr oedd yn ieuanc; mor dda oedd o ac eraill; ac yn ein ceryddu ni beunydd a byth. Yn ffodus, ymhen tipyn digwyddais fod yn ardal ei hen gartref. Cyfarfûm â gwraig oedd wedi ei magu y drws nesaf iddo, a dywedais wrthi am y driniaeth a gaem ganddo.

"Yn awr," meddwn, "mae arnaf eisiau i chwi ddweud ychydig o'i hanes o pan oedd yn hogyn, gael i mi gael dweud wrtho. Ni wnaf ddweud pwy a ddywedodd wrthyf. Dywedwch dipyn o'i dricie fo."

Gwarchod pawb!" ebe hithau, "nid oedd ganddo fo ddim tricie. Bachgen da iawn oedd o; darllen ei lyfr y bydde fo." "Ydech chwi ddim yn cofio iddo roi'r gath i lawr trwy'r simdde erioed?"

"Bobol annwyl! chymere fo lawer am wneud ffasiwn beth," ebe hi; "bachgen da iawn oedd o."

"Wel, wraig," meddwn drachefn, "ydech chwi'n meddwl dweud wrtha i fod o wedi ei ail eni cyn ei eni y tro cyntaf?"

"Bachgen da iawn oedd Gruffydd beth bynnag."

Bu'n rhaid i mi droi'n ôl yn siomedig.