PENNOD XVI
ENWADAU CWM EITHIN
NI fyddai hanes bywyd gwledig unrhyw gwm yng Nghymru agos yn gyflawn heb ddisgrifiad gweddol fanwl o'r gwahanol enwadau a bywyd y capel, oherwydd mai'r capel. oedd bron yr unig beth a ddylanwadai ar fywyd plentyn heblaw ei gartref. Yno'r oedd ei ddiddordeb, am gyfarfodydd y capel y dyhëai, yno y cyrchai ar ôl ei ddiwrnod gwaith. Mae'n rhaid cofio bod plant a phobl mewn oed yn credu mai eu henwad hwy yw'r gorau o ddigon. Mae'n debyg fod syniadau pawb lawer yn ehangach am enwadau eraill yn awr nag oeddynt pan oeddwn i'n blentyn. Na feier arnaf, gan hynny, os byddaf yn dywedyd mai'r enwad y cefais y fraint o fod yn aelod ohono oedd y gorau o ddigon, ac felly disgrifiad o fywyd fy nghapel bach fy hun yn unig a allaf ei roddi. Ei flaenoriaid a'i athrawon yn unig a adwaenwn yn iawn (hynny yw, os oedd digon yn fy mhen i'w hadnabod yn iawn); hwy oedd fy arwyr.
Yr oedd y dadleuon enwadol wedi lliniaru llawer erbyn fy amser i, er y daliai pob enwad yn selog dros ei gredo. Yr oedd yr hen chwerwedd cas wedi diflannu, felly yr oedd yr enwadau yn hollol gyfeillgar yng Nghwm Eithin pan gofiaf ef, ac mae'n sicr fod erledigaethau hen Berson Llanfryniau wedi eu closio at ei gilydd. Ond yr oedd ôl yr hen helyntion i'w gweled neu i'w clywed yn amlwg iawn, oherwydd pan fyddai pregethwr o un enwad yn pregethu gydag enwad arall, caech ei glywed bron bob amser yn myned allan o'i ffordd i ddyfynnu darn o bregeth neu sylw o waith rhywun yn perthyn i'r enwad a wasanaethai ar y pryd, gan gyfeirio ato fel "gweinidog enwog gyda'ch enwad parchus chwi" Pahan y byddai eisiau dywedyd bod un o'r pedwar enwad crefyddol a wnaeth gymaint i Gymru yn barchus, oni bu amser yr edrychai'r enwadau ar ei gilydd heb fod felly? Cefais lawer o hwyl wrth glywed ambell bregethwr bach, na châi lawer o gyhoeddiadau gyda'i enwad ei hun, yn sôn am gewri parchus eich enwad parchus chwi." Byddaf yn clywed ambell un hyd y dydd hwn o brif bregethwyr Cymru yn gwneud hyn. Tebyg eu bod wedi eu codi mewn rhan o'r wlad lle y parhaodd y chwerwedd yn hwy nag y dylasai, ond bydd yn