Tudalen:Cwm Eithin.djvu/216

Gwirwyd y dudalen hon

merwino fy nghlustiau bob tro y clywaf y geiriau "Eich enwad parchus chwi." Tybed fod angen dywedyd am enwad crefyddol ei fod yn barchus? Ach a fi!

Yng Nghwm Annibynia y'm ganwyd, a bûm yn Annibynnwr selog am yn agos i saith mlynedd. Un o blant y Parch. Michael Jones oeddwn; ond pan symudais i Gwm Eithin collais fy Annibyniaeth. Ac y mae'n debyg fod pob un yn colli ei Annibyniaeth pan fo 'n rhywle rhwng pump a saith mlwydd oed. Ni chaiff lawer o'i ffordd ei hun ar ôl hynny, mae'n rhaid iddo ddyfod yn un o'r Methodistiaid, er bod rhai yn eu galw eu hunain yn Annibynwyr hyd yn oed ar ôl priodi! Nid rhyw lawer o Annibynwyr oedd yng Nghwm Eithin. Aros un ochr i'r Cwm yn ei gilfachau yr oeddynt, ac yr oedd y capel nesaf dros ddwy filltir o'm cartref newydd, tra'r oedd dau gapel Methodist o fewn milltir, a'm mam wedi bod yn mynychu un ohonynt flynyddoedd yn ôl y lleiaf a'r pellaf o'r ddau, os oedd peth gwahaniaeth yn y ffordd. Yno y'm cefais fy hun. Er mor ieuanc oeddwn arhosodd lle pur gynnes yn fy nghalon i'r Annibynwyr. Credwn mai hwy oedd yn dyfod nesaf at y Methodistiaid. Yr oedd yno hen ferch a thri hen lanc o Annibynwyr yn byw yn ymyl ein capel bach ni, ag ôl Diwygiad '59 wedi aros yn drwm arnynt, a deuent i'n capel ni weithiau, yn enwedig ar gyfarfod diolchgarwch. Yr oeddynt yn danbaid yn eu gweddïau, un ohonynt yn borthwr hynod iawn yn y gwasanaeth. Gwaeddai "He, He," gyda rhyw lais treiddgar. Cofiaf un tro C. R. Jones, Llanfyllin, yn aros gyda'i frawd John Jones Rhoed ef i bregethu nos Sul yn ein capel ni. Yr oedd gŵr ieuanc o'r Bala yn y daith yn hanu o Borthmadog. Rhoed y ddau i bregethu. Cydgerddwn â nifer adre, a'r siarad oedd mai'r efrydydd oedd wedi pregethu orau, ond bod yr hen lanc wedi gweiddi mwy o lawer o "He, He" pan oedd C.R. yn pregethu. Ond nid oedd yn hollol fel safety match Ioan Jones. Soniai Ioan Jones am hen frawd a arferai borthi yn y moddion yn frwdfrydig iawn yng nghapeli ei enwad ei hun. Ni thaniai yng nghapeli'r enwadau eraill.

Byddwn yn myned i gapeli'r Annibynwyr yn awr ac eilwaith i ddarlithoedd a chyfarfodydd pregethu, pryd y byddai "Hwfa Môn," "dyn y foch arian," ac eraill yn pregethu, a byddwn i, fel pob hogyn arall, yn edrych mor ddoeth a phwysig ag y medrwn mewn capel dieithr.

Nid oedd dim Bedyddwyr yng Nghwm Eithin. Gallwn i edrych o ben y top ddeng milltir i bob cyfeiriad heb weled yr