un Bedyddiwr, ac yr oeddwn yn hogyn go lew cyn gwybod dim amdanynt, er i mi glywed enw Christmas Evans lawer tro. Daeth Pedr Hir" i fyw i dop y Cwm ar ôl i mi ymadael. Clywais y gellid gweled ei ben ef yr adeg honno o'm cartref dros ysgwydd Mwdwl Eithin, pan âi i'r mynydd i ddysgu Groeg yn lle dal poachers. Cefais fraw i waelod fy esgidiau pan welais gapel Bedyddwyr gyntaf yn fy oes. Y waith gyntaf y'm cefais fy hun ym mhrif dre Cwm Eithin, wrth gerdded trwy'r dre a rhythu ar ei rhyfeddodau mawrion, gweled golau ar flaen peipen yn ystabl yr Hotel, a methu â gweled cannwyll frwyn na channwyll wêr yn y beipen; ac wrth i mi ymhela â hi aeth y golau allan. Ar ôl myned allan o'r ystabl, cerddais ychydig is i lawr y dref. Gwelais adeilad â bwrdd ar ei dalcen, ac arno Baptist Church. Wel, wel," meddwn wrthyf fy hun, mae nhw wedi dwad. Mae hi wedi darfod arnom yng Nghymru. Fe gawn ni yr Ymneilltuwyr ein llosgi bob copa walltog. Tybed fod a fynno'r hen. Berson rywbeth â'u dwyn hwy yma i ddial arnom ni, blant yr Ysgol Gerrig?" Ychydig yn gynt clywswn yr hen flaenor yn dywedyd ei fod yn ofni bod yr Ymneilltuwyr yn myned yn debycach i'r Eglwyswyr a hwythau yn myned yn debycach i'r Pabyddion, ac yr ofnai mai yn Babyddol yn ei hôl yr âi Cymru. Pabistiaid y galwai fy nain y Pabyddion, a siaradodd lawer yn fy nghlyw am eu creulonderau at y Protestaniaid yn amser Mari Waedlyd. Pan welais Baptist Chapel, cymerais yn ganiataol mai'r Papistiaid oeddynt. Pwy na fuasai yn cael braw wrth eu gweled wedi cyrraedd i waelod Cwm Eithin? Ymhen amser ar ôl hynny, yr oedd yno wraig wedi bod yn byw yn Llundain ac yn arfer gwrando gyda'r Bedyddwyr, ac wedi dychwelyd i'w hen. gartref yn Llanllonydd, un o frigau Cwm Eithin, a dymunai gael ei bedyddio. Trefnodd nifer o'r Bedyddwyr o rywle â dau neu dri o'u gweinidogion i ddyfod i Lanllonydd i'w bedyddio. Y prynhawn Sul a ddaeth, ganol haf, a'r haul yn entrych y ffurfafen. A gwelwyd y ffyrdd a'r llwybrau o bob cyfeiriad yn ddu gan bobl yn cyrchu i Lanllonydd, rhai ar hyd y cymoedd a rhai dros y bryniau. Euthum innau yn y dyrfa yn llawn chwilfrydedd. Mae afon enwog yn rhedeg trwy Lanllonydd. a phont faen i'w chroesi, a llyn braf o'r tu ucha i'r bont. Ac yr oedd ei ddwfr yn loyw a grisialaidd y diwrnod hwnnw, a'r gro mân o'i waelod yn adlewyrchu goleuni'r haul. Yr oedd y bont a'r llechwedd wrth y llyn yn orlawn o bobl pan gyrhaeddais, ond gan fy mod yn fychan o gorffolaeth gwthiais drwyddynt a
Tudalen:Cwm Eithin.djvu/217
Gwirwyd y dudalen hon