Tudalen:Cwm Eithin.djvu/218

Gwirwyd y dudalen hon

heibio i gornel y bont ar y llechwedd yn ymyl y llyn. Yno y syllais mewn gorchwyledd ar y Sacrament Cysegredig yn cael ei weinyddu gan weinidog tua chanol oed gyda defosiwn ac urddas. Gwrandewais yr anerchiadau a'r pregethu wedyn yng nghapel y Methodistiaid gan rai o'r gweinidogion a ddaethai yno. Ni allaf ddywedyd beth oedd enw'r un o'r gweinidogion, a'r unig beth sydd wedi glynu yn fy nghof o'r gwasanaeth yw darn o emyn:—

"Af ar ôl yr Apostolion
A aeth yn ffyddlon o fy mlaen,
Ac a gladdwyd yn y dyfroedd
Fel gorchmynnodd Iesu glân."

Ni fu arnaf byth ofn y Bedyddwyr ar ôl hynny.

Nid llawer o Wesleaid oedd yng Nghwm Eithin. Capeli bychain a chynulleidfaoedd bychain oedd ganddynt. Fel rhyw ddolen gydiol rhwng y ddau enwad arall a'r Eglwys yr edrychwn i arnynt yr adeg honno. Ni wn yn iawn paham. Mae'n debyg mai un rheswm oedd eu bod yn dysgu cwymp oddi wrth ras a minnau wedi fy nysgu ac yn credu nad oedd y fath beth yn bosibl. Ond y mae'n rhaid i mi addef y byddai cwymp yn beth pur fynych yn eu mysg yng Nghwm Eithin yr adeg honno. Yr oedd llawer gormod o yfed, mae'n sicr, gyda phob enwad, ond fe gredwn i a llawer eraill eu bod hwy yn fwy goddefgar na'r enwadau eraill at aelodau yn slotian.

Byddwn yn myned i'w capel i gyfarfodydd. Cofiaf fyned yno un tro i wrando'r Parch. Owen Cadwaladr Owen, mab y Parch. Cadwaladr Owen, Dolwyddelan. Yr oedd y Wesleaid wedi taenu'r newydd ei fod yn well pregethwr o lawer na'r mab arall oedd yn fugail gyda ni y Methodistiaid yn rhai o gapeli Cwm Eithin, ac aeth llawer o Fethodistiaid yno i farnu, a minnau yn eu mysg. Mae'n rhaid i mi addef ei fod lawer mwy parablus na'i frawd iau, ond nid argyhoeddwyd ni ei fod yn well pregethwr. Yr oedd iaith blaenoriaid y Wesleaid yn llawer mwy steilus na iaith ein blaenoriaid ni; yr oedd un neu ddau ohonynt fel pe buasai ganddynt iaith neilltuol ar gyfer y Sul. Yno y clywais y geiriau "Eisteddleoedd," "Moddiannau," a "Chyfeillach' gyntaf yn fy oes, yn cyfateb i "Seti," "Cyfarfodydd " a "Seiat" gennym ni.

Ychydig iawn a fynychai Eglwys Llanfryniau er i'r hen Berson wneud ei orau i orfodi pawb i fyned yno. Rhyw nifer tebyg i