Tudalen:Cwm Eithin.djvu/219

Gwirwyd y dudalen hon

deulu Arch Noah oeddynt. Yr oedd Eglwys Llanaled ychydig yn well, am fod yno Berson oedd yn un o'r rhai mwyaf rhyddfrydig yn yr oes honno; ond yr oedd y trigolion wedi gweled gormod o'r sgriw i feddwl yn uchel o'r Eglwys i wneud llawer â hi. Fy syniad i'r pryd hwnnw oedd mai lle i bobl yn cadw cŵn hela, y stiwardiaid, cipars a disgyblion y torthau ydoedd hi, ac nid oedd gennyf fawr feddwl o'r naill na'r llall ohonynt. Methwn yn lân â deall pe buasai y Person yn myned i gadw seiat gyd â hwy, y cawsai lawer o hwyl. Clywais am y Parch. John Williams, Llecheiddior (os wyf yn cofio'r enw yn iawn), offeiriad duwiolfrydig yn byw yn amser y Diwygiad Methodistaidd, wrth weled llwyddiant a gwerth y seiadau o dan arweiniad Williams Pantycelyn ac eraill, yn penderfynu ceisio cadw seiat yn ei Eglwys. Un nos Sul hysbysodd ei fod am gael cyfarfod i gael rhydd-ymddiddan am bethau crefydd; rhyddid i bawb ddywedyd eu profiad a pheth a fyddai'n pwyso fwyaf ar eu meddwl; hwyrach y gallent yn y modd hwnnw gynorthwyo llawer ar ei gilydd. Noswaith y cyfarfod a ddaeth, ond ni ddaeth ond tri yno hen wraig dlawd, gwraig gyfoethog, a ffarmwr cefnog. Ar ôl i'r offeiriad ddechrau'r cyfarfod a rhoddi anerchiad agoriadol byr, trôdd ar yr hen wraig dlawd, "Wel, Mari, mae'n dda gen i eich gweld wedi troi i mewn. Beth sydd gennych chwi i'w ddweud wrthym ni?"

"Chwi wyddoch, Mr. Williams, mai hen wraig weddw dlawd ydwyf fi; dim ond deunaw o'r plwy at fyw. Mae hi'n galed iawn arna'i. 'Rydw i yn methu â chael digon o fwyd; mi 'rydech chwi yn ŵr o ddylanwad mawr, ac mi roeddwn yn meddwl y gallech chwi fy helpu i gael ychydig chwaneg.'

"Ie; wel, Mrs. Jenkins, mae'n dda iawn gen i eich gweld chwi wedi dywad atom ni heddiw. A wnewch chwi ddweud gair o'ch profiad wrthym ni; rywbeth sydd ar eich meddwl chwi?"

"Fe fidd yn dda odieth geni gael gweid, Mr. Williams. Mae 'da fi riw boin yn fy ochr with ers amser. 'Rw i wedi bod gida llawer o ddoctoriaid, ond rw i yn ffaeli'n lan â chael dim reliff. 'Rw i'n gwbod eich bod chwi yn ŵr dysgedig, ac yr oeddwn i yn meddwl, 'falle, y gallech chwi roi rhiw gyngor i mi ffordd i gael madel â'r boin yma."

"Mae'n ddrwg gennyf fi, gyfeillion, mae arnaf ofn eich bod wedi camddeall natur y cyfarfod. Mae'n ddiau fod gennym ein treialon a'n helbulon gyda phethau y bywyd hwn, ond cyfarfod yr oeddwn i yn meddwl i hwn fod i ymdrin â phethau ysbrydol-