Tudalen:Cwm Eithin.djvu/22

Gwirwyd y dudalen hon

Lanuwchllyn, a arferai aros ar ei thraed trwy'r nos i gadw tan- llwyth o dân yn y grât rhag ofn i'r mab gael annwyd wrth fyned i'r glo, ond am lanciau Cwm Eithin, gadewid iddynt hwy, druain, ymdaro orau y medrent yn yr oerni.

Y mae'r hen giatiau wedi eu tynnu ers llawer dydd, ond y mae llawer o dai'r giatiau yn aros eto, a diau fod llawer teithiwr mewn modur yn methu deall beth ydynt. Tai bach oeddynt, isel, un- llawr, a ffenestr y gellid gweled i ddau gyfeiriad ohoni. Cofiaf yn dda un o'r hen drigolion, Huw Morgan, a gymerth ran flaen- llaw yn helynt Y 'Becca, pan dorrwyd yr hen giatiau, ac y taflwyd hwy i'r afonydd. Cafodd ei anfon am dymor i'r carchar i Ruthun. Clywais ef yn adrodd lawer tro lle mor druenus oedd y carchar yr adeg honno.

Rhedai y "goits fawr" ar hyd y tyrpeg yn yr haf; ond nid ar gyfer pobl Cwm Eithin yr oedd hi, "byddigions" a fyddai hi yn eu cludo. Pe gwelsid un o'r trigolion ar ei phen, buasai yn ddigon o waith siarad am fis. Ar gefnau eu ceffylau, yn eu cerbydau, yn eu troliau, neu ar eu traed yr aent hwy i bob man. Ni feddylient ddim o bicio i'r dref ryw ddeng milltir o ffordd a chludo baich yn ôl a blaen. Yr oeddynt yn gerddwyr ardderchog. Ar hyd y ffordd dyrpeg yr âi gyrroedd o geffylau, gwartheg, moch, defaid a gwyddau o Gymru i lawr i Loegr. Byddai'r caeau o gylch pentref Llanaled ar adegau neilltuol o'r flwyddyn yn llawn o anifeiliaid yn aros dros y nos. Yno pedolid y gwartheg rhag i'w traed friwio. Gydag un o'r gyrroedd hyn yr aeth Dic Siôn Dafydd i lawr i Loegr, "a'i drwyn o fewn llathen i gynffon llo." Gofynnid amynedd mawr i yrru gwyddau, gan mai cerddwyr gwael iawn ydynt.

Deallaf yr arferid pedoli gwyddau yn yr hen amser, trwy roddi eu traed mewn pyg, ond nid yn fy amser i. Nid wyf yn cofio erioed i mi weled gyr o ieir yn pasio, na, fe fynnent hwy gael eu cario. Clywais i Joe yr Henblas geisio myned â gyr i Ruthun un- waith, ond i'r ymdrech fyned yn fethiant. Yr oedd Joe dipyn yn ddiniweitiach na'r cyffredin. Un noswaith dywedodd ei feistres wrtho, " Joe, mae'n rhaid inni gael yr ieir yn barod i fyned i Ruthun; ni fydd dim amser yn y bore." Aeth Joe allan ar y gair a chododd yr holl ieir o'u clwydi, gan feddwl eu hel at ei gilydd; a dyna lle bu'n rhedeg ar eu holau o'r naill fan i'r llall nes llwyr ddiffygio. Aeth i'r tŷ yn ôl yn chwys diferol. "Meistres," meddai, "fedra'i gael trefn yn y byd ar yr hen