Tudalen:Cwm Eithin.djvu/220

Gwirwyd y dudalen hon

ein treialon a'n temtasiynau, i'n paratoi ni ar gyfer y byd ar ôl hwn. Mae hen afon angau gennym i'w chroesi bob un ohonom; ac fe fydd arnom angen am rywbeth i'n cynorthwyo i groesi honno, ac i lanio'n ddiogel yr ochr draw. Beth sydd gennych chwi i'w ddweud, Mr. Morgan?"

"Wel, wir, Mr. Williams, yr oeddwn i yn meddwl, pan o'ech chwi yn sôn am yr afon sydd gyda ni i'w chroesi, am yr hen geffyl gwyn oedd 'da fi. Weles i yr un afon erioed na nofiws e hi, ond 'rw'i wedi ei werthu e. Pam na fase chi'n gweid wrtho i am yr hen afon yma cin i fi ei werthi e?"

Syniad pur gyffredin oedd gennyf am y cipar. Er enghraifft, rhywbeth yn debyg i syniad yr Iddew am y publican, er na ddioddefodd Cwm Eithin gymaint oddi wrth y cipars yn fy nghof i â llawer rhan arall o Gymru. Methwn â gweled y gallai fod a wnelo'r cipar lawer mwy â chrefydd na'r cŵn a ganlynai. Yn wir, nid oedd ambell un ohonynt yn yr oes honno yn annhebyg iawn ei olwg i rai o'r cŵn a ganlynai. Yr wyf braidd yn meddwl pe buaswn yn gwybod am benbleth Darwin i gael gafael ar y missing link yr adeg honno y buaswn wedi anfon ato i ddweud "Dowch i Gymru, ac mi a'i dangosaf i chwi." Ceir llun da o Guto'r cipar yn Robert Sion o'r Gilfach gan "Elis o'r Nant." Tebyg iawn i syniad Gwen Phillip am yr Eglwys oedd fy un innau y pryd hwnnw, ac yr oedd hwnnw gryn lawer yn uwch na syniad yr hen Berson am bobl y capel. Hen wraig erwin oedd Gwen Phillip. Gallai regi llawn gystal â'r un dyn yng Nghwm Eithin, a medrai witsio. Felly, fe fyddai gennym ni'r plant gryn lawer o'i hofn. Ni fuasai yr un ohonom yn meiddio tynnu wynebau a gwneud ystumiau o flaen drws ei thy hi. Er hynny, yr oedd cryn lawer ym mhen Gwen Phillip. Yr oedd ganddi fab a'i enw Wil, bachgen digon dawnus a medrus, a gallasai fod yn ddefnyddiol iawn mewn capel neu eglwys; ond tipyn o chwit-chwat ydoedd, a dechreuodd slotian gyda'r ddiod. Bu gyda'r Methodistiaid yn hir, yn cael ei ddiarddel, ac yn cael tro a myned yn ei ôl, ond blinasant arno yn y diwedd. Ymunodd yntau â'r Wesleaid, a bu yno am dymor yn cario ymlaen yn debyg, i mewn ac allan. Ond fe flinasant hwythau arno. Yna fe ymunodd â'r Eglwys, a'r diwedd fu iddynt hwythau ymwrthod ag ef, wedi mynd ohono dros ben llestri. Hysbyswyd ei fam fod Wil wedi cael ei droi o'r Eglwys. Cododd hithau ei dwylo uwch ei phen a beichiodd allan, "Wel, wel, mae Wil ni wedi colli'r trên olaf i'r nefoedd.'