Tudalen:Cwm Eithin.djvu/222

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XVII

EIN CAPEL NI

SAFAI Capel Cefn Cwm Eithin nid mewn llan na phentref, ond ar ei ben ei hun ar godiad tir ychydig lathenni o'r hen ffordd. Codwyd ef ar derfyn y ddeunawfed ganrif. Ef oedd yr hynaf yn y cylch. Capel ysgwâr a dau ddrws i fyned i mewn iddo. Yr oedd y pulpud a'r allor rhwng y ddau ddrws, a'r seti'n codi yn uchel tua'r cefn a stepiau uchel i fyned iddynt. Yr oedd llwybr ar gyfer pob drws ac un yn y canol, y seti'n ddyfnion â drysau'n cau, yn fy nghof cyntaf, a dwy res o feinciau ar y llawr, y bechgyn yn eistedd un ochr a'r genethod yr ochr arall; ond yn fuan rhoed dwy sêt hir yn lle dwy o'r meinciau, ac aeth rhagor o'r plant i eistedd i'r seti. Yr oedd tŷ'r capel wrth ei dalcen, ac ystabl wrth dalcen hwnnw, a mynwent o'r tu ôl, a chotel o dir i gael gwair i geffylau'r pregethwyr, gyda lawnt weddol fawr o dir o'i flaen; y tir i gyd wedi ei roddi gan ŵr a fu â llaw fawr yng nghychwyn yr achos. Lle diddorol dros ben i ni yr hogiau oedd yr ystabl lle'r arhosai ceffylau'r pregethwyr, yn enwedig ceffylau'r pregethwyr teithiol. Llawer ymgom felys a gawsom gyda hwy yn eu holi am eu teithiau. Meddylier gymaint a allai hen geffyl melyn yr hen Brydderch o'r Gopa, neu geffyl John Dafis Nerquis, ei ddywedyd wrthym yn eu dull eu hunain. Yr oeddynt gymaint o wags â'u meistradoedd. Ond fel yr oedd yr oes yn myned yn fwy materol, fe drowyd yr ystabl yn dŷ er mwyn cael rhent at gynnal yr Achos. Ac yn fuan fe brynodd masnachydd anturiaethus ddarn o'r lawnt ac adeiladodd dŷ a siop, fel y gallai mynychwyr y capel saethu dwy frân ar yr un ergyd, cael cynhaliaeth corff ac enaid.

Yr oedd gwydr golau yn y ffenestri, a phan fyddem wedi blino yn gwrando'r bregeth ar brynhawn Sul marwaidd, gallem ein difyrru ein hunain wrth edrych ar rywun yn rhedeg i droi'r hwch o'r haidd, neu'r ŵyn bach yn prancio ar hyd llethrau'r ochr gyferbyniol i'r cwm. Yn yr haf byddai'r ffenestri a'r drysau yn agored, a deuai'r gwenoliaid i mewn i wrando'n fynych, yn enwedig pan fyddai yno bregethwyr wrth eu bodd. "Y wennol a gafodd dŷ.' Gwelais y gwenoliaid droeon yn gwrando'n astud ar y Parch. William Pugh, Llandrillo, yn pregethu. Mae'n