debyg eu bod yn meddwl mai un o'u cyfeillion y gwenyn fyddai wrthi. Ys gwn i beth a fuasai pobl yr oes hon yn ei feddwl o wrando ar William Pugh yn pregethu am awr ar brynhawn Sul marwaidd, fel cacynen mewn bys coch? Bu'n rhaid i ni ddwyn y groes honno lawer tro.
Nid oedd yno ddim i dwymno'r capel yn y gaeaf, ond nid wyf yn cofio i mi erioed fod yn oer ynddo, er nad oeddwn yn meddu côt ucha'. Arwydd o henaint neu o falchter oedd gwisgo côt uchaf yng Nghwm Eithin. Gresyn na buasai'r hen arferiad dda honno wedi parhau. I beth yn y byd y mae gan ŵr ieuanc a'i wythiennau yn llawn o waed eisiau côt uchaf? Mae llawer o hogiau o bregethwyr yn andwyo eu hiechyd a'u cyfansoddiad wrth wisgo côt uchaf a chadach mawr fel hanner gwrthban am eu gyddfau er ceisio ymddangos yn debyg i hen gewri'r pulpud. Pan welaf un o'r creaduriaid bach hynny byddaf bob amser yn dyfod i'r casgliad nad yn ei frest y mae'r gwendid ond yn ei ben. Mae'n debyg mai'r rheswm fod eisiau twymno capeli yn ein dyddiau ni yw bod y pregethwyr a'u gwrandawyr wedi oeri llawer rhagor y byddent yn yr hen amser. Yr oeddynt wedi dechrau twymno'r eglwysi lawer o flynyddoedd cyn dechrau twymno'r capeli. Clywais adrodd fod y dyrnaid addolwyr a fynychai Eglwys Cynwyd wedi myned i deimlo'n oer iawn, a galwyd cyfarfod o'r wardeniaid ac eraill er cael gafael ar ryw gynllun effeithiol i dwymno'r lle. Cynigiwyd amryw ffyrdd i wneuthur hynny, ond nid oedd llawer o lewych arnynt. Cododd yr hen Feistar Williams, Gwerclas, ar ei draed, a chynigiodd eu bod yn cael John Jones, Talsarn, yno i bregethu, mai dyna fuasai'n ei thwymno drwyddi. Ardderchog, yr hen Williams! Ond ni bu angen am dwymno'r capeli am flynyddoedd ar ôl hynny. Ond ysywaeth fe ddaeth angen am dwymno'r capel. Os edrychir dros ddalennau'r Faner am y blynyddoedd '67 a '68, ymhen llai na deng mlynedd ar ôl Diwygiad '59, fe welir fod y cwestiwn o oerni'r capeli wedi datblygu'n gwestiwn poeth. Erbyn hyn ceir heating apparatus ym mhob capel, ac eto maent yn oerach nag yn yr hen amser gynt.
Pan gyrhaeddais i gapel bach Cwm Eithin, yr oedd yno dri o flaenoriaid. Yr oedd yno bedwar arall wedi bod o'u blaen er amser cychwyn yr Achos, tri o'r pedwar wedi marw, ac un wedi symud oddi yno, a bu'n flaenor mewn dwy eglwys arall ar ôl hynny. Dim ond tri o flaenoriaid y capel hynaf yn y cylch oedd wedi marw cyn cof i mi. Rhaid fy mod yn dechrau myned yn