Tudalen:Cwm Eithin.djvu/225

Gwirwyd y dudalen hon

hen, ond cofier mai un blaenor oedd yno, rhoddwr y tir, yn yr oes gyntaf. Yr oedd yr hynaf o'r tri yn ffarmwr mawr, ac o ymddangosiad boneddigaidd. Gwallt gwyn, cyrliog, ac yn ysgwyd ei ben bob amser, arwydd i ni'r plant ei fod yn dduwiol iawn. Yr oedd ganddo gorffolaeth fawr. Yr oedd drysau'r capel yn ddau ddarn, ac un hanner a agorid bob amser. Gyda thrafferth y deuai ef i mewn. Gwthiai y rhan oedd o dan ei wasgod i mewn yn gyntaf, ac yna deuai yn wysg ei ochr am gongl yr hanner drws caeedig ac i mewn yn debyg fel y deuir â bwrdd crwn i mewn i ystafell. Wrth feddwl amdano wedi dyfod i oedran addfetach, credaf mai hen ŵr da ydoedd; a gallwn feddwl wrth gofio am ffurf ei wyneb a'i ben ei fod yn ŵr o farn ac yn gymeriad cryf. Cofiaf yn dda ddiwrnod ei gladdu. Dyna'r tro cyntaf i mi roddi fy nhroed yn Eglwys Blwyf Cwm Eithin.

Gŵr pur wahanol oedd blaenor arall. Ffarmwr mawr heb ddim hynod iawn ynddo. Rhoddai bwys neilltuol ar ei air a gofalai am ei gadw. Arferwn feddwl ei fod yn ŵr mawr ar ei liniau, a meddyliai yntau ei fod yn bur fawr ar ei draed, ac felly yr oedd o ran ei gymeriad, ond nid oedd ei wybodaeth na'i allu i siarad yn gyhoeddus ond pur gyffredin. Siaradai yn uchel iawn ym mhob man, yn enwedig mewn cwmni; ond ar gefn y ferlen neu yn ei gerbyd yr oedd yn ei ogoniant. Meddai ferlen dda bob amser. Byddai'n barchus iawn o'r plant a'r bobl ieuanc. Yr oedd gennyf barch mawr iddo ef a'i deulu caredig, a chefais gystal cyfle, os nad gwell, i'w adnabod â llawer o drigolion Cwm Eithin.

Y trydydd oedd ein pen blaenor. Ffarmwr oedd yntau, ond fod ei ffarm yn llawer llai, a buasai un llai fyth yn gwneuthur y tro iddo o ran hynny o waith a wnâi. Ond yr oedd yn flaenor ardderchog. Blaenor yn byw mewn ffarm oedd ef, ac nid ffarmwr wedi ei wneuthur yn flaenor. Meddai bersonoliaeth hardd a gwybodaeth eang, ac yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, yn drefnydd medrus, yn holwyddorwr pobl mewn oed, ieuenctid neu blant, dan gamp. Ymysg yr holl flaenoriaid y deuthum i gyffyrddiad â hwy, ni chyfarfum â'i debyg am holwyddori. Byddai ei gael i ddarllen pennod ac i holi arni ar ddechrau'r cyfarfod gweddi nos Sul y wledd flasusaf yng nghapel Cwm Eithin. Yr oedd yn un o'r athrawon medrusaf, a phlannodd awydd angerddol am wybodaeth mewn to ar ôl to o blant Cwm Eithin. Ef oedd y dechreuwr canu, ac nid oedd ei debyg am hynny