Tudalen:Cwm Eithin.djvu/226

Gwirwyd y dudalen hon

yn yr holl ardaloedd. Ei unig fai, am a wyddwn i yr adeg honno, oedd ei fod yn rhy arw am ei ffordd ei hun. Ac âi i'w ful oni châi hi. Safai ei gartref yn agos i'r capel. Yr oedd yn dŷ da, hen gartref yr hen frenin weinidog ac un o brif arweinwyr y Methodistiaid yr oes o'r blaen; ac yno y lletyai'r pregethwyr. A byddai wrth ei fodd gyda hwy. Ond ofnai hogiau'r Bala ef; yr oedd yn holwr caled. Byddai yn ei ogoniant wrth arwain y pregethwr at y capel. Os digwyddai fod pregethwr enwog yn y daith, dyweder Dr. Edwards, y Bala, yr adeg honno, yn lle rhoddi ei ddwylo ym mhocedau ei lodrau fel arfer, tynnai ei wasgod i fyny a gwthiai ei ddwylo oddi tan ei lodrau, er mwyn teimlo'n llond ei ddillad. Meddai rai ffaeleddau, ond diolch amdano, gwnaeth waith na ddileir mohono.

Nid oedd yr un o flaenoriaid "Ein Capel Ni" yn amlwg yn y Cyfarfod Misol; Morgan Dafydd, blaenor Llanllonydd, eglwys oedd yn yr un daith â ni, oedd popeth yno. Hen lanc yn cadw siop, neu'n hytrach y siop oedd yn cadw'r hen lanc, ac yntau'n treulio ei amser i ddarllen a gwasanaethu'r Corff. Gŵr hyddysg yn ei Feibl, ac yn medru darllen y Testament Newydd yn y Roeg, a gweithiau diwinyddion gorau ei oes ar flaenau ei fysedd. Ond siaradwr afrwydd ydoedd, er siarad bob amser; gŵr cryf; o gymeriad dilychwin, yn cael ei anrhydeddu gan bawb, ond blaenor digon sâl gartref. Nid oedd yno ar hyd y blynyddoedd ond un blaenor gydag ef, dyn bychan ym mhob peth ond mewn ffyddlondeb a duwioldeb, ond yr oedd yn gwneud yn iawn i gario dŵr i Morgan Dafydd. Pan ofynnid ei farn ar gwestiwn, "O, yr un fath â fo," fyddai ei ateb bob amser. Morgan Dafydd a fyddai'n dechrau bron bob cyfarfod gweddi, a'r blaenor arall yn diweddu, ac yr oedd yno un brawd arall yn arfer moddion yn y canol, i wneud sandwich, a phan fu'r ddau hen bererin farw, nid oedd yno neb braidd i gario'r gwaith ymlaen Eglwys wan mewn ardal fawr a phoblog ydoedd.

Yr oedd yno well eglwys, gwell pobl, rhai mwy darllengar a deallgar nag yn yr un ardal arall yng Nghymru " yn ein capel ni." Gellir nodi amryw resymau am hynny. Un yw y bu y Parch. Thomas Charles o'r Bala yn ofalus iawn am ein capel ni yn ei gychwyn, am mai ef oedd y cyntaf i gael ei godi yn y cylch ar ôl y Bala; hynny'n brawf fod pobl Cwm Eithin yn rhai effro wrth natur. Peth arall, daeth un o brif dadau Methodistiaeth i fyw o fewn ychydig o lathenni i'r capel yn 1815, a bu yno hyd 1834. Gŵr byw ac effro, meddylgar, ac yn fyfyriwr mawr.