Tudalen:Cwm Eithin.djvu/227

Gwirwyd y dudalen hon

Clywais Evan Huws yn sôn llawer am ei weithgarwch. Pan fyddai ganddo hamdden, arferai adael i'w geffyl gerdded yn araf tra byddai yntau wedi ymgolli mewn myfyrdod. "Cofiaf ei gyfarfod aml dro o Gwernanau i'r hen Ffolt," ebe Evan Huws, "a phasiai fi heb sylwi." Cydnabyddid fod Ysgol Sul "Ein Capel Ni" ar y blaen i holl ysgolion y cylch. Arferai ei rhif fod yn ddwbl rhif yr aelodau eglwysig. Bu'r Eglwys fach heb weinidog yn gofalu dim amdani o 1834 hyd 1864, a phan ymunais i â hi nid oedd yr un gweinidog yn byw yn nes na rhyw bum neu chwe milltir iddi. Felly, er byw heb ofal unrhyw weinidog am ddeng mlynedd ar hugain, yr oedd yn un o'r eglwysi mwyaf byw yng Nghymru. Ychydig iawn oedd nifer y paganiaid o'i chylch, dim ond dau neu dri, a deuent hwythau i'r cyfarfod diolch am y cynhaeaf.

Llenwid pulpud "Ein Capel Ni" gan weinidogion y cylch, megis Dafydd Rolant, y Bala; Robert Thomas, Llidiardau; John Hughes, Gwyddelwern; Dafydd Hughes, Bryneglwys; Robert Williams, Llanuwchllyn; Richard Williams, Llwynithel, Glan'rafon; John Williams, Llandrillo; Edward Williams, Cynwyd; Elis Evans, Llandrillo; Dafydd Edwards, Glan'rafon; Robert Edwards, Llandderfel; y ddau Isaac Jones (y tad a'r mab), Nantglyn; Robert Roberts, Parc; John Jones, Penmachno; Eli Evans, Dolwyddelan, a William Pugh, Llandrillo. Deuai Dr. Edwards yn ei dro. Ni chefais i'r fraint o glywed Dr. Parry, ond toreth y pregethwyr oedd "Hogiau'r Bala." "Gŵr ifanc o'r Bala fydd yma yn pregethu y Sul nesa," dyna a glywid Sul ar ôl Sul yn aml, ac yr oeddym ni'r plant yn meddwl yn uchel iawn ohonynt, ac yr oedd corff y gynulleidfa yn eu parchu a'u mwynhau yn fawr.

Arferai Evan Huws ddywedyd nad oedd yn iawn i neb aros gartref ar nos Sul ystormus hyd yn oed i ddarllen pregethau John Jones, Talsarn, ei arwr mawr ef, os gallai ymlwybro i'r capel. Yr oedd dyfod i'r Tŷ yn beth mawr yng ngolwg yr hen saint. Yn hynny yr oeddynt yn wahanol iawn i seintiau'r dyddiau diweddaf hyn. Oni bydd y pregethwr wrth eu bodd arhosant gartref. Ond y peth mawr yng ngolwg yr hen bobl oedd cyfarfod y Gŵr yn Ei Dŷ. Eto yr oedd peth rhagfarn yn aros yn erbyn hogiau'r Bala, yn enwedig ymhlith rhai o'r hen bobl oedd yn hongian rhwng y Capel a'r Eglwys, heb fynychu ond ychydig ar na'r naill na'r llall, ac yr oedd ambell un o'r dosbarth hwnnw yn teimlo'n bur gryf yn eu herbyn. Cofiaf glywed am un ohonynt yn dywedyd ei