Tudalen:Cwm Eithin.djvu/228

Gwirwyd y dudalen hon

farn fel y canlyn am hogiau'r Bala. Galwn ef yn Huw Dafydd. Gŵr wedi darllen llawer, ac yn meddu cryn graffter meddwl. Adwaenwn ef yn dda. Anaml yr âi i gapel, ambell dro i'r Eg- lwys. Yn amser Diwygiad Richard Owen perswadiwyd ef i fyned i wrando arno, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi teimlo o dan ei weinidogaeth. Wrth gydgerdded adref mentrodd cyfaill ofyn iddo, "Beth oeddych chwi yn ei feddwl o'r pregethwr yna, Huw Dafydd?" "Wel," ebe yntau, "dyna ŵr wedi ei anfon gan Dduw heb os nac onibai." Yna stopiodd, ac meddai ymhen munud neu ddau, "Ond am y diawled bach o'r Bala yna sydd gynnoch chi bob Sul, wn i ddim pwy sydd yn anfon y rhai yna."

Er nad oedd ond dau flaenor yn Ein Capel Ni am ran o'r amser y bûm i yno, nid oedd yr allor yn wag; byddai'r hen bererinion yn yr amser gynt yn ddigon gostyngedig i ddyfod i'r allor. Yr oedd yno ddau neilltuol yn arfer eistedd, Richard Jones a John Huws. Hen ŵr bychan oedd yr olaf, a phob amser yn eistedd yn fflat ar ben grisiau'r pulpud, a phob amser â gwên ar ei wyneb; a phan fyddai pregethwr wrth ei fodd estynnai ei big dros ddrws y pulpud. Llawer o hwyl a gawsom ni'r plant yn ei wylio yn tynnu ei ben yn ôl pan fyddai pregethwr hwyliog â breichiau hirion ganddo, dyweder John Hughes, Tyddyn Cochyn, yn rhoddi ei bregeth fawr ar y cribddeiliwr ac yn ei ddisgrifio yn cribinio'r cloddiau a'r cymylau, ac yn glanio yn y byd tragwyddol heb gymaint a botingen o wellt, ac yn gweiddi Dim byd i mi, bobol bach; rhywbeth i mi hefyd, rhywbeth i mi hefyd." Hen bregethwr llawn dwylath o daldra, â breichiau anghyffredin o hirion. Bûm yn ofni lawer tro gweled pen John Huws wedi ei dynnu o'r gwraidd ac yn disgyn ar y Beibl, ond gofalai'r hen frawd am dynnu ei big i ddiogelwch pan welai y breichiau mawr yn dechrau chwifio. Yr oedd gan rai o'r hen bererinion ryw hyfdra, neu beth bynnag y galwaf ef. Yr oeddynt yn nes at y pregethwyr ac yn fwy cartrefol nag ydym ni yn yr oes hon, a dywedent eu barn wrthynt yn bur ddifloesgni. Clywais adrodd am hen bererin mewn capel arall. Hen ŵr tal, tenau, yn eistedd mewn sêt ar godiad wrth ochr y pulpud; a phan safai i fyny yr oedd cyn daled â'r rhan fwyaf o'r pregethwyr. Un tro yr oedd yno ŵr yn pregethu ar y " Ddeddf a Moses," a Moses a Moses oedd ganddo ar hyd yr amser. Y funud y dywedodd Amen, cododd yr hen bererin ar ei draed a'i hanner drosodd i'r pulpud, a lediodd y pennill a ganlyn gyda phwyslais neilltuol:—