ieir yna. Ma' nhw'n rhedeg un gog gog ffordd yma a'r llall gog gog ffordd arall."
Gwelir felly, er mai mewn cwm y trigiannai pobl Cwm Eithin, nad oeddynt anhysbys am y byd oddi allan. Gwyddent fod un pen i'r cwm yn agor i wlad fawr gyfoethog a bras a elwid Lloegr. Yr oedd ganddynt dri o brofion diymwad o'i bodolaeth.
1.—Gwelsent filoedd ar filoedd o geffylau, gwartheg, defaid, moch, a gwyddau ar eu ffordd yno, ac ni byddai'r un ohonynt byth yn dyfod yn ôl. Dychwelai'r gyrwyr gan ddywedyd bod yno ddigon o le i ragor; rhaid ei bod yn wlad fawr.
2.—Yr oedd gan y porthmyn a ddeuai oddiyno ddigonedd o arian i dalu am yr anifeiliaid; rhaid ei bod yn wlad gyfoethog iawn.
3.—Arferai nifer o'r dynion fyned i Sir Amwythig bob blwyddyn i'r cynhaeaf i fedi gwenith, a dychwelent gan ddywedyd eu bod yn cael eu gwala a'u gweddill o fara gwyn. Rhaid ei bod yn wlad fras. Parai hynny i drigolion Cwm Eithin a fywiai ar fara haidd, awyddu am wynnach bwyd, ond nid "gloywach nen." Gwyddent hefyd am fodolaeth Sir Fôn yn rhywle o'r tu ôl i fynyddoedd Eryri, a welent yn cusanu'r cymylau gwynion bob diwrnod braf, ac yr oedd ganddynt dri o brofion diymwad o'i bodolaeth: 1. Deuai John Elias o Fôn i sasiwn y Bala bob blwyddyn; 2. Yr oedd hyn a hyn o filltiroedd i "Holyhead" yn gerfiedig ar bob carreg filltir ar hyd y Cwm, ac arferai'r tadau ddywedyd wrth y plant mai ym mhen draw Sir Fôn yr oedd Holyhead, ac mai'r ffordd honno y deuai'r trampars o Iwerddon i Gwm Eithin; 3. Yr oedd yno ŵr o Fôn wedi ymsefydlu yng Nghwm Eithin. Adweinid ef wrth yr enw " Monyn." Cwmon oedd wrth ei alwedigaeth, dyn afrosgo, a'i draed fel bysedd cloc ar chwarter wedi naw. Buasech yn synnu, wrth ei weled, pa fodd yr oedd wedi cerdded yr holl ffordd o Fôn i Gwm Eithin. Ond yno yr oedd, ac ni ddylid synnu am ddim a wna pobl Sir Fôn; meddant ryw ynni a phenderfyniad i fyned drwy anawsterau nad ydym ni, drigolion y berfeddwlad, yn feddiannol arnynt. Y maent i'w cael ym mhob rhan o'r byd, ac, ond odid, ymhellach o lawer na hynny. Yn debyg fel y clywais "Dyfed" yn dywedyd am y Cardis. Un tro yr oedd pwyllgor cryf o Saeson wedi ei ffurfio i gael gafael ar ben draw'r byd Dewiswyd cwmni o wŷr dewrion a gwydn at y gwaith. Cychwynasant ar eu taith beryglus ac anturiaethus. Ar ôl chwilio, dioddef caledi anhygoel, a bod mewn enbydrwydd am