Tudalen:Cwm Eithin.djvu/230

Gwirwyd y dudalen hon

EIN CAPEL NI ond byddai'n rhaid i mi ofalu am eistedd yn ddigon pell oddi wrtho pan fyddwn yn yfed te neu ni fyddai fy nghlustiau yn ddiogel. Ni chlywais sôn am safonau, safoni a safonwyr yno; ond yr oedd gennym ni drefn lawer gwell na hynny. Unwaith bob blwyddyn âi'r arolygwr ac un o'r athrawon trwy ddosbarthiadau'r plant, a châi bob un oedd wedi gwneud cynnydd mewn darllen a gwybodaeth ei symud i ddosbarth uwch, a chryn anfri oedd i'r un gael ei adael ar ôl. Yr oedd yr ysgol yn un fyw iawn. Yr oedd y blaenor a enwais, ac eraill oedd wedi codi yn ei gysgod, yn gallu taflu rhyw asbri ac awydd yn y plant i ddarllen a deall hanes cymeriadau yr Hen Destament, ac yn y rhai hŷn i ddeall y Testament Newydd. Plant Ein Capel Ni a fyddai ar y blaen bob amser yn ateb yn Sasiwn y Plant. Cynhelid cyfarfod darllen yn y gaeaf. Yr oedd yno gôr, a chôr Ein Capel Ni a enillai bob amser yng Nghyfarfod Mawrth oni byddai yn cael cam.

Bugail cyntaf Cwm Eithin, hynny yw, bugail cyntaf y saint, oedd un o fyfyrwyr cynharaf y Bala. Yr oedd yno aml fugail defaid wedi bod, ac yr oedd pawb yn gynefin â'r gair bugail ac yn deall ei ystyr yn bur dda. Ond yr oedd y syniad o fugail eglwysig yn newydd iawn. Yr oedd i ddyn roddi ei holl amser i bregethu a chadw seiat, ac felly gael ei dalu am wneud dim byd, a gallu byw heb ffarm na siop, yn beth na welwyd neb erioed yn ei wneud yng Nghwm Eithin ond y Person. Ac nid rhyw awydd mawr oedd yn neb am weled rhagor o Bersoniaid.

Ni fu unrhyw bregethwr yn cymeryd y gofal lleiaf o'n Capel Ni ar ôl marw'r hen wron yn 1834, ac yr oedd yr hen long o dan ei llawn hwyliau; ond yn 1864 daeth y bugail newydd, yn ŵr ieuanc yn syth o'r coleg. Meddai bersonoliaeth hardd iawn, ac yr oedd yn bregethwr hwyliog iawn, dyna syniad hogyn amdano. Bu farw yn 1874, ymhen deng mlynedd, a chyhoeddwyd cofiant iddo. Bob tro y byddai fy hen weinidog, y diweddar Barch. Griffith Ellis, a minnau yn sôn amdano byddem yn methu â chytuno. Daliwn i allan, pe buasai wedi cael byw i aeddfedrwydd oedran, y daethai yn bregethwr poblogaidd, ond credai ef fel arall. Ond peidier â'm camddeall nid cael ei alw i ofalu am ryw drigain a deg yn Ein Capel Ni a wnaeth, ond ei alw i ofalu am chwech o eglwysi, a'r ffordd rhwng y ddwy bellaf oddi wrth ei gilydd tuag wyth milltir. Daeth yntau i fyw i Lanaled, yn y canol. Yno yr oedd yr eglwys fwyaf a'r dref fwyaf ymysg y chwech. Yr oedd