haearn torri mawn Sir Gaerfyrddin yn lle Bach Gwair Rhif 4. Ychwanegir y Bach Gwair at y darlun y tro hwn, Rhif 5.
Yr un pryd, goddefer i mi alw sylw at y gwahaniaeth a welir rhwng Haearn Mawn y Deheudir ac un Cwm Eithin. Yn un y Deheudir nid oes ond rhyw glap bach ar ben y goes i afael ynddo, tra yn ein rhai ni yr oedd dwrn neu fesen yn ei wneuthur yn debyg i T. A'r un fath gyda'r rhawiau, coesau byrion a lle i afael gyda grym, a gellid defnyddio ochr i mewn i'r glin i wthio'r rhaw o dan y pridd neu y marial y ceisid ei symud. Ond gwelais rawiau rhai o siroedd y deheudir, a choesau hirion fel picffyrch; edrychent yn anhylaw iawn i Ogleddwr. Beth yw'r rheswm am y gwahaniaeth? Galwodd fy sylw hefyd at y defnydd a wneuthum o'r gair pwysgwr am bwys o wlân (tud. 88). Dywaid mai 'pwys gwyr' a ddylai fod, sef y pwys a ddefnyddid gan wehyddion Gŵyr, rhanbarth o Gymru oedd yn nodedig am ei gwlân. Diau mai ef sy'n gywir. Dywedodd fy nain wrthyf lawer tro, "Rhaid i ti fynd a phwysgwr neu ddau o wlân i'r ffatri, gael i mi gael 'dafedd i droedio sane." Felly gadawaf ef i mewn fel gair llafar gwlad. Anodd erbyn hyn yw gwybod paham y galwyd ef yn bwys gŵyr ar y dechrau. A ydoedd yr un bwysau ag mewn rhannau eraill o'r wlad?
Ar dudalen 126 soniais am "ddeunawiaid." Dywaid fy nghyfaill "Bodfan" mai "dyniawed," "dyniewaid" a ddylai fod, ac nad yw'r gair deunawiaid yn air llafar gwlad o gwbl. A galwodd fy sylw at y ffaith fod y gair "dyniawed" i'w gael yn "Breuddwyd Rhonabwy," yn Llyfr Coch Hergest, yn y 14 ganrif, ac yn y Beibl. Dylaswn gofio fy Meibl yn well, a bod Micah wedi ei ddefnyddio. Ond gan fod trigolion Cwm Eithin yn parhau i'w ddefnyddio, a bod deunawiaid yn enw da ar wartheg deunaw mis oed gadawaf ef i mewn.
Ar dudalen 115 wrth sôn am ddyrnu â ffust, defnyddiais y geiriau troedffust a llemffust. Mewn llythyr a dderbyniais oddi wrth yr Athro Edward Edwards, dywaid iddo fod yn gweithio gyda'r holl hen gelfi a enwir yn CWM EITHIN: gwelaf mai bonffust a llafn ffust a ddefnyddía ef. Ni wn pa un sydd gywir.
Troedffust a lemffust a glywais i ar lafar gwlad yng Nghwm Eithin.
Gofynnodd amryw i mi beth yw ystyr y gair "Gluad" (gleuad) a ddefnyddiais ar dudalen 91 am dail gwartheg sych a losgid i sychu gwlanen a brethyn yn y pandy. Drwg gennyf na allaf ei egluro, ond dyna fel y clywais ef yn cael ei swnio, a