Tudalen:Cwm Eithin.djvu/235

Gwirwyd y dudalen hon

sef (1) Mary, gwraig Samuel Jones, Pentre Ffynnon, Whitford; (2) Phoebe, gwraig (fel y cyfeiriwyd uchod) Richard Jones, Tŷ Cerrig, a (3) plant ei ferch ymadawedig Catherine, gwraig Meredydd Roberts, Moelfre Fawr, Tŷ Nant. Ynglŷn a'r gymynrodd i blant Catherine, yr oedd yn amodol ar Meredydd Roberts (yr hwn oedd wedi ail-briodi ers dwy flynedd) i roddi i fyny ysgrif-rwym (bond) am £1,000.

"Ar ôl marwolaeth John Jones ym mis Rhagfyr, 1833, nid oedd yr ewyllys wreiddiol ar gael, ond yr oedd copi ohoni wedi ei gadw gan y cyfreithiwr a'i gwnaeth. Codwyd cyngaws yn yr Uchel Lys am ganiatâd i brofi'r copi, ac ar yr 8fed o Rhagfyr, 1835, cafodd y weddw lythyr-cymyn (Probate) i'r ewyllys, ac ymhen y mis rhoddwyd iddi lythyr-terfynedig (limited probate).

"Yn y cyfamser yr oedd y stâd wedi myned i ddwylo Richard Maurice, un o'r ymddiriedolwyr, ac ni allai'r weddw na'r plant gael unrhyw ran o'r eiddo.

"Yn 1835 dechreuodd y weddw gyngaws yn Llys yr Arglwydd Ganghellor (Chancery) yn erbyn yr ymddiriedolwyr am gyfrif o'r stâd a'r eiddo, ac am gael penodi ymddiriedolwyr newydd i weinyddu'r ymddiriedaeth. Gwnaed ymchwiliad gan y Llys, a gorchmynnwyd bod cyfrif yn cael ei roddi o'r holl eiddo. Gorchmynnwyd hefyd fod y ffermydd yn cael eu gwerthu a'r arian a dderbynnid amdanynt yn cael eu talu i mewn i'r llys.

"Bu'r weddw farw yn 1838, a chariwyd y gyfraith ymlaen gan gyflawnydd ei hewyllys (executor); dygwyd i mewn i'r cyngaws liaws o bersonnau, cynhaliwyd amryw o ymchwiliadau (inquiries), a chadwyd yr achos o flaen y Llys yn ddi-dôr am ugain mlynedd, hyd 1856, pryd y gwelwyd fod yr holl arian yn y Llys, dros ddeng mil ar hugain o bunnau (£30,000), wedi eu llyncu gan y costau! Ar hynny, cytunodd y cyfreithwyr o boptu i ddirwyn y cyngaws i ben, a gadawyd yn y cyfrif, i'w ranu rhwng y plant a'r wyrion, y swm o £27/2/3, ac y mae'r swm yna yn aros heb ei hawlio hyd heddiw."

Anfonodd Mr. Clark Jones hanes manwl am helynt arian mawr Peter Ffoulkes, Ty Gwyn; fel y bu i ryw Peter Ffoulkes o Sais geisio trawsfeddiannu'r arian; a'r ffaith nad oedd rhyw Gymro wedi ysgrifennu Saesneg yn gywir yn rhwystro i drigolion Cwm Eithin gael eu harian o Lundain. Pe buasai ein tadau ni, dri-