Tudalen:Cwm Eithin.djvu/236

Gwirwyd y dudalen hon

golion Cwm Eithin, wedi cael eu hawliau, diau na fuasem ni mor dlawd ag ydym heddiw.

Ond gan fod y manylion a anfonodd Mr. Clark Jones braidd yn faith, ac nad ydynt o ddiddordeb neilltuol ond i nifer fach o ddarllenwyr y llyfr, ni roddais hwy i mewn i gyd. Er hynny diolchaf yn gynnes iawn iddo am y drafferth a gymerodd yn casglu'r holl fanylion a'u hanfon. Ymddangosodd yr hanes yn Y Brython, Chwefror 1, 1933.

Dywedodd un neu ddau a adolygodd y llyfr y credent fy mod yn rhy lawdrwm ar y tirfeddianwyr a'u stiwardiaid. Credaf innau fel arall, a byddaf yn synnu i'n tadau eu goddef cyhyd. Ac i brofi fy mhwnc rhoddaf ddyfyniad o lythyr yn diolch am fy llyfr a dderbyniais oddi wrth Mrs. L. D. Jones, gweddw Llew Tegid:

Gwn innau am greulondeb y stiwardiaid. Yr oedd fy nhad yn un o ferthyron '59, sef John Thomas, Pandy Mawr, Llanuwchllyn, ar stad Syr Watcyn. Yr oedd fy nhad wedi bod yn yr America cyn priodi, ac wedi cael ideas newydd, ac felly wedi gwario cannoedd o bunnau drwy ychwanegu at y tŷ a thrin y ffarm nes clywais rai yn dywedyd ei bod fel gardd. Yna daeth y lecsiwn, ac wedyn warning i ymadael, a dim dimai o compensation. Methwyd â chael ffarm am flwyddyn, a gorfod gwerthu popeth. Cawsant sicrwydd wedyn na wyddai Syr Watcyn ddim am y peth nes bod y tenantiaid gorau oedd ganddo ar y stad wedi chwalu.

"Nid wyf yn cofio'r lecsiwn honno, ond ar ôl lecsiwn wedyn—'68 mae'n debyg, pan oedd y ffermwyr yn y South yn cael eu troi i ffwrdd, y peth yr wyf yn ei gofio yw mam yn darllen Y Faner; y gohebydd yn darlunio ocsiwn ar ffarm a gwerthu'r fuwch goch, a'r dagrau yn disgyn ar y papur. Ond nid rhyfedd, yr oedd wedi myned trwy'r un peth.

"Yr wyf yn cofio merched yn dod i wlana, ac ambell un i hel blawd, yn enwedig Jimmie Lanfor. Byddai yn dod yn gyson. Ni fûm yn gwisgo'r Welsh Not, ond y mae gennyf un wedi i'm diweddar briod ei gael o dan lawr ysgol y Garth yma."

Mae'n debyg fod Syr Watcyn yn rhy brysur yn rhoddi'r Gwyddelod i lawr i wybod beth oedd ei stiwardiaid yn ei wneuthur. Ond amlwg ei fod yn cyfiawnhau eu gwaith neu buasai'n rhoddi compensation i'r ffermwyr y gwnaeth y fath anghyfiawnder â hwy.