Tudalen:Cwm Eithin.djvu/237

Gwirwyd y dudalen hon

Cynghorwn bleidwyr y tirfeddianwyr i ddarllen hanes dioddefaint nifer o amaethwyr Sir Aberteifi ar ôl etholiad 1868, a gofyn a allant gyfiawnhau eu gwaith.

Diolchaf i Mr. Thomas Thomas, Y.H., Dinmael, am ddarlun o Ferthyron y Degwm, ef yn un o'r merthyron ei hunan (hen gyfeillion bore oes i mi lawer ohonynt). Gwelir y darlun yn yr Atodiad. Ond dywedir nad yw rhai o'r prif arweinwyr yn y darlun, a bod ynddo rai na chymerasant fawr o ran yn y rhyfel; ond ceir ynddo gynrychiolaeth dda o drigolion Cwm Eithin.

Diolch iddo hefyd am alw fy sylw at un camgymeriad a wneuthum wrth adrodd eu hanes oddi ar fy nghof ar dudalen 33 trwy ddywedyd: "Goddefodd hen gyfoedion i mi gael eu hanfon i garchar Rhuthyn yn hytrach na pharhau i ymostwng i gyfraith orthrymus oedd wedi dyfod i lawr o'r Oesoedd Tywyll." Nid yw hyn yn hollol wir. Ceir cyfeiriad hefyd at Ferthyron y Degwm ar dudalennau 187 a 189.

Yr wyf erbyn hyn wedi cael yr hanes yn weddol gyflawn gan Mr. Thomas Thomas, Dinmael, ac o hen gyfrolau o'r Faner, ond ni allaf ei roddi yma yn gyflawn am y llanwai gryn nifer o dudalennau. Rhoddaf ychydig o'r prif ffeithiau. Yn nechrau blynyddoedd yr wyth degau yr oedd pris cynnyrch amaethyddiaeth yn isel iawn, a chredai'r amaethwyr y dylent gael gostyngiad o tua 2/- yn y bunt am mai ar gynnyrch y tir yr oedd y degwm wedi ei drethu. A gwnaethant apêl at bersoniaid y plwyfi. Caniataodd nifer o'r personiaid, rai 1/-, rai 2/-, ac ambell un 3/- yn y bunt, am y gwelent gyni'r amaethwyr. Ond gwrthododd person Llangwm, y Parch. Ellis Roberts, "Elis Wyn o Wyrfai," a rhai personiaid eraill, ostwng dim i'r amaethwyr. Penderfynodd nifer o amaethwyr Cwm Eithin beidio â thalu oni chaent y gostyngiad. Canlyniad hynny oedd i'r Ecclesiastical Commissioners, Mai 18, 1887, anfon oddeutu ugain o feiliaid i atafaelu ar eiddo pedwar ar hugain o amaethwyr dewr Cwm Eithin a wrthodai dalu. Ond canwyd corn gwlad, a daeth y lluoedd ynghyd, a rhwystrwyd hwy gan y dorf mewn nifer o ffermydd rhag cario eu bwriad allan, ond llwyddasant i atafaelu ar eiddo pedwar o amaethwyr.

Ar ôl atafaelu yr oedd yn rhaid gwerthu'r fuwch goch neu pa anifail bynnag yr oeddynt yn cymryd meddiant ohoni. Y dydd cyntaf o Fehefin, 1887, yr oedd arwerthiant i fod yn y Fron Isa, lle y trigai fy nghyfnither a'i phriod, Thomas Hughes, ar ddwy fuwch