eu heinioes, cyraeddasant at wal fawr, uchel, gwal pen draw'r byd. Nid oedd lle yn y byd yr ochr draw i'r wal. Ar ôl chwilio tipyn arni, gosod yr Union Jack i gyhwfan oddi arni, llongyfarch ei gilydd ar eu llwyddiant mawr, gloddesta ar y clod a ddeuai iddynt pan ddychwelent, hwyliasant i gychwyn adref. Meddai un ohonynt, oedd ychydig mwy henffel na'r gweddill, "Fase ddim gwell i ni ddringo i ben y wal, rhag ofn fod yno rywbeth yr ochr draw iddi? " Cytunwyd i wneuthur hynny, a phan gyraeddasant ei phen, beth a welent, er eu syndod, ond Cardi yn eistedd ar ei sodlau yn smocio'n braf yr ochr draw i wal pen draw'r byd. Ac ni synnwn i ddim, pe buasent wedi myned ychydig ymhellach, na ddaethent ar draws gŵr o Fôn yn chwilio am glai i wneuthur brics, neu yn ceisio symud ychydig ar y tywod â'i droed i wneuthur sylfaen i godi tŷ.
Deuai trigolion Cwm Eithin i gysylltiad â phob math o bobl, o'r pregethwr teithiol i lawr at y prynwyr gwartheg a'r "byddigions" a ddeuai yno i saethu.