Tudalen:Cwm Eithin.djvu/240

Gwirwyd y dudalen hon

yr atafaelwyd arnynt. Erbyn chwech o'r gloch y bore yr oedd 25 o heddgeidwaid Sir Ddinbych a'u harolygydd wedi cyrraedd y Fron Isa. Ond yr oedd Mwrog yr arwerthwr a'i gyfeillion ar ôl yn cyrraedd, ac erbyn hynny yr oedd holl drigolion y cylch wedi casglu,—yr amaethwyr â'u ffyn, a'r gweithwyr a'r gweision â phastynau cryfion, a'r merched yn eu cefnogi i sefyll y frwydr. Dechreuodd yr arwerthwr gynnig y gwartheg ar werth, ond ni chynigiodd neb geiniog i'w prynu i mewn, ac yr oedd agwedd y dorf yn myned yn fwy cynhyrfus. Gan na phrynai neb y gwartheg, nid oedd dim i'w wneuthur ond ceisio myned â hwy ymaith. Ond buan iawn y gwelwyd na chaniatâi'r dorf hynny,—myned â dwy fuwch oedd yn werth pedair gwaith swm y dyled,—a da iawn fu gan yr arwerthwr a'i gyfeillion gael myned adref â'u hesgyrn yn gyfain. Anfonwyd hwy a'r heddgeidwaid i ffwrdd, a dywedir bod dros dri chant o bobl yn eu danfon ar hyd y ffordd trwy'r Glyn i Gorwen, wedi eu cynhyrfu i waelod eu bodolaeth a golwg fygythiol iawn arnynt.

Deallwyd bod yr arwerthwr a'i deulu yn dod i gynnal arwerthiant mewn ffermydd eraill, ond ni wyddid o ba gyfeiriad y deuent. A dyna'r pryd y daeth y teleffon gyntaf i Gwm Eithin,—gosod dynion ar bennau'r bonciau yn bolion o fewn cyrraedd gwaedd y naill i'r llall, a chynnau coelcerthi i hysbysu'r ffordd y deuai'r arwerthwr a gwŷr ar gefnau ceffylau cyflym i gario'r newyddion. Daethant o gyfeiriad Cerrig y Drudion mewn cerbyd a dau geffyl yn eu tynnu. Ac erbyn iddynt gyrraedd yr oedd tyrfa anferth wedi casglu. Stopiwyd y cerbyd, a chaed pawb ond y gyrrwr allan. Dychrynwyd y ceffylau, ac aethant i lawr i gyfeiriad Corwen ar garlam gwyllt. Yna gwnaed i'r gelynion gychwyn cerdded tua Chorwen trwy'r Glyn. Bygythiwyd taflu Mwrog yr arwerthwr i'r trobwll ofnadwy hwnnw, ac oni bai am ymyriad rhai o'r arweinwyr, diau mai wedi ei ladd y buasai. Yr oedd y gelynion. yn y fath fraw nes begio am eu bywyd. Gwnaed iddynt fyned ar eu gliniau ac arwyddo papur fel y canlyn: "We hereby promise not to come on this business again in any part of England or Wales to sell for Tithes:—E. J. Roberts, Wellington Chambers, Rhyl; Edward Vaughan, Bothis, Rhyl."

Yna gwnaed iddynt dynnu eu cotiau a'u gwisgo amdanynt y tu chwith allan i ddangos eu hedifeirwch. Yna trefnwyd gorymdaith i fyned â hwy i orsaf y trên i Gorwen, pum milltir o ffordd, cynrychiolwyr yr Eglwys yn y canol a'u cotiau y tu chwith allan, baner goch o'u blaenau, a baner ddu o'r tu ôl yng nghanol bloeddiadau ac ysgrechiadau'r bobl.