Mehefin 15, derbyniodd nifer o amaethwyr lythyrau fod y Dirprwywyr Eglwysig yn cychwyn cyngaws yn eu herbyn am rwystro i'w gwartheg gael eu cymryd i ffwrdd, a chodi cynnwrf ar ffordd fawr.
Mehefin 22, gwysiwyd tua 15 o'r arweinwyr o flaen ynadon. Rhuthyn, a pharhaodd y treial am ddyddiau. Y diwedd fu ei daflu i'r frawdlys chwarterol, a gollyngwyd hwy yn rhydd ar yr amod eu bod i ymddangos yn y frawdlys.
Pan gyfarfu'r Frawdlys, amlwg fod y Dirprwywyr Eglwysig wedi dod i ddeall eu bod wedi codi'r wlad yn eu herbyn. A chafwyd allan fod rhai o dystion y Dirprwywyr Eglwysig wedi tyngu anudon yn y prawf gerbron yr Ustusiaid Heddwch trwy ddywedyd bod rhai personau wedi cymryd rhan yn yr helynt nad oeddynt yn agos i'r lle, felly fod rhai o'r rhai a wysiwyd i ymddangos yn berygl o droi arnynt.
Gwnaeth y Barnwr beth pur anghyffredin, sef galw'r diffynyddion a'r cyfreithwyr a'u cynrychiolai a'r rhai a gynrychiolai'r Dirprwywyr Eglwysig i gyfarfod â'i gilydd, i edrych a oedd bosibl iddynt ddod i gyd—ddealltwriaeth, ac felly fe dynnodd y Dirprwywyr Eglwysig yn ôl ar yr amod fod y diffynyddion yn addef iddynt dorri'r gyfraith. Dywedodd y Barnwr ei fod yn falch eu bod wedi dod i ddeall ei gilydd; mai pobl heddychol yr oedd ef wedi gweled y Cymry bob amser, a bod golwg mor respectable ar y diffynyddion fel na hoffai ef eu cosbi; ond y byddai raid iddo ef gario'r gyfraith allan, ac mai'r unig beth iddynt ei wneuthur, os nad oedd y gyfraith wrth fodd y wlad, oedd ceisio ei newid trwy ffordd gyfansoddiadol. A gollyngodd hwy yn rhydd ar ymrwymiad o £20 yr un i ymddangos ger ei fron os byddai galw. Enw'r Barnwr oedd Justice Wills.
Costiodd y cyngaws yn ddrud iawn i Ferthyron y Degwm o Gwm Eithin, ond iddynt hwy y perthyn rhan helaeth o'r clod am gael dadsefydlu'r eglwys.
Dymunaf ddiolch i Mr. Peate hefyd am anfon i mi'r ddau ddarlun a welir yn yr Atodiad,—y Fuddai Gŵn a'r Felin Falu Eithin,— ac am gael caniatâd Cyngor yr Amgueddfa Genedlaethol i'w rhoddi yn fy llyfr. Mae un y fuddai gŵn yn berffaith hyd y gwelaf fi, un ci sydd arni tra byddai dau fel rheol yn y ffermydd mwyaf lle y ceid hwy; y chwiorydd a fyddai'n corddi yn y tyddynnod bychain. Gwêl dudalennau 131—140.
Am y darlun o'r Felin Falu Eithin, diau y gŵyr Mr. Peate yn dda nad hi yw'r un y cyfeirir ati ar dudalen 141, yn cael