ei throi ag olwyn ddŵr yn yr hen amser, ac y cyfeiria "Ap Cenin" ati wrth ysgrifennu hanes Llanfairfechan i'r Brython Medi a Hydref, 1925.
Nid wyf yn meddwl fod yr un y ceir ei llun yn hen iawn. Nid yw namyn injan dorri gwellt, ac nid yw'r hynaf o'r rhai hynny. Cyfeiriaf at un hŷn na hi ar dudalen 130. Yn ystod y tair blynedd poethion tua 1869-71 y cyfeiriaf atynt ar dudalen 141, pan nad oedd gwair na gwellt i'w gael i'r anifeiliaid yr haul wedi ei losgi ar y maes, cafwyd i'm hen gartref injan dorri gwellt newydd yr un fath â'r un sydd yn y darlun i falu eithin yn fwyd i'r gwartheg rhag iddynt lwgu. Bûm yn ei throi gannoedd o weithiau i falu eithin. Cofiaf yn dda un anlwc a gefais gyda hi. Er meddwl fy mod wedi cnocio ac ysigo'r eithin yn dda a gofalu na roddais ond brigau ieuainc i mewn yn y cafn heb fod yn ddigon gofalus, neu feallai feddwl y malai yr injan newydd unrhyw beth, gadewais i fonyn caled fyned i mewn a chraciodd un o'r cyllill ar ei thraws. Ni wyddwn pa fodd i wynebu fy mam a'm nain a chyfaddef fy helynt, ond ni chefais lawer o ddrwg am fy niffyg gofal, ac ni feddyliasant hwythau y buasai cyllell haearn weddol dew yn cracio. Gwnaeth ei gwaith am lawer o flynyddoedd wedyn, ond ei bod yn fwy anhwylus i'w thynnu i'w llifo a'i rhoi yn ei hôl.
Galwodd Mr. Thomas Thomas, Mr. Thomas Hughes, Fron Isa, a Mr. D. Jones, Pen y Bont, fy sylw at gamgymeriad a wneuthum wrth ysgrifennu oddi ar fy nghof ar dudalen 186, wrth sôn am frwydr addysg yn Llanfryniau. Dywedais fod yr Ysgol Frics wedi ei chodi o flaen yr Ysgol Gerrig, ac mai o'r Ysgol Frics yr arferai'r Person anfon plant adref fore Llun os na fyddent wedi bod yn yr Eglwys y Sul. Ond ymddengys mai pan gynhelid ysgol mewn llofft yn perthyn i'r Eglwys, a'i ddwy ferch ef yn gofalu amdani, y gwnâi hynny. Yna cych- wynnodd yr Ymneilltuwyr ysgol yn Siop Pen Ucha, a bu Miss Catherine Ellis, merch y diweddar Barch. Humphrey Ellis, a Robert Jones, Tŷ Newydd, oedd wedi cael tipyn o addysg o'r tu allan i Lanfryniau, yn gofalu amdani. Yn 1867 yr adeiladodd yr Ymneilltuwyr yr Ysgol Gerrig. Ac yn 1869 y cododd y Person yr Ysgol Frics i geisio lladd y llall. Felly nid oeddwn yn hollol gywir wrth ddywedyd i'r Ymneilltuwyr gynorthwyo i adeiladu'r Ysgol Frics.
Bu farw'r hen Berson yn 1872, a daeth "Elis Wyn o Wyrfai" yn ei le; gŵr llawer callach, er ei fod yn eglwyswr selog, a chan