cheid grant gan y Llywodraeth at ysgol yr Ymneilltuwyr, cytunwyd i gau'r Ysgol Gerrig ar y dealltwriaeth fod yr holl blant i gael yr un chwarae teg.
Edrydd Mr. Thomas hanes un arall o ystrywiau'r hen Berson i geisio atal plant i'r ysgol, sef ceisio cau llwybr oedd yn arwain o'r Gellioedd i'r Llan heibio Hendre Ddu i'w rhwystro i ddod y ffordd agosaf. Ond methodd yn ei ymgais.
Felly fe welir fod yr hen Berson wedi gwneuthur popeth yn ei allu i geisio atal un o'r symudiadau mwyaf damniol yn ei syniad ef a ddaeth i Gymru erioed, sef Ymneilltuaeth—y werin dlawd anwybodus yn hawlio rhyddid i addoli eu Creawdwr yn y ffordd a ddymunent, ac nid fel y gorchmynnai ef iddynt wneuthur. Ar dudalen 200, soniais am y Parch. John Williams, Llecheiddior, ond nad oeddwn yn sicr o enw'r lle. Dywed "Elldeyrn," Nantglyn, wrthyf mai Lledrod yn y Deheudir a ddylai fod, ac nid Llecheiddior. Amaethdy yn Eifionydd yw y diweddaf. Bu hen bregethwr o'r un enw yn trigianu yno, ond yn fwy diweddar na'r hen offeiriad duwiol o Ledrod.