Tudalen:Cwm Eithin.djvu/25

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD I

Y CYFNOD. CALEDI'R AMSEROEDD.
CYNI'R WERIN

AWN yn ôl yn awr i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan i inni dreulio bore f'oes yng nghwmni fy nhaid a'm nain, oedd wedi eu geni ddiwedd y ddeunawfed ganrif, mae sŵn caledi'r amseroedd ddechrau'r ganrif ddiweddaf yn aros yn fy nghlustiau. Llawer ochenaid drom a glywais yn esgyn o galon fy nain a'm mam wrth sôn ohonynt am galedi’r amseroedd; a chyn ceisio dechrau â'm hatgofion o wahanol agweddau bywyd Cwm Eithin, credaf nad anniddorol fydd disgrifiad o galedi'r amseroedd, yr amser caletaf, mae’n debyg, a welodd Cymru yn ei hanes; hynny yw, nid wyf yn meddwl y bu cyfnod yn hanes Cymru a mwy o'i thrigolion yn dioddef prinder bwyd.

Yr oedd cyfleusterau teithio ac arferion y wlad yn wahanol iawn i'r hyn ydynt heddiw.

" Roedd hon mewn bri cyn bod un trên
Yn cario nain trwy'i hoes,"

meddir am hen ffon fy nain, cyn dyfod y troliau a'r cerbydau a'r wagen fawr i'r wlad. Ychydig iawn o droliau oedd yng Nghymru ddechrau'r ganrif ddiweddaf. Fe ddywedir mai Lawrence Jones, tad "Jac Glan y Gors," a ddaeth â'r gyntaf i Gerrig-y-drudion. Dywaid Charles Ashton.[1] hanes y drol gyntaf yn ochrau y Berwyn. Mynnai meibion hen ffarmwr brynu trol, y newydd beth anhydrin. Un diwrnod, pan aeth y tad i ffair y dref, aeth y bechgyn ati i deilo. Ar ôl dychwelyd, gofynnodd yr hen ŵr iddynt sut yr oeddynt wedi teilo cymaint. Addefasant hwythau iddynt ddefnyddio'r drol. Gwylltiodd yntau yn gaclwm; ni allai gredu y tyfai'r maes ar ôl cario tail iddo â throl, a mynnai i'r bechgyn ei gario'n ôl. Yr hen arfer oedd cario popeth bron ar gefn ceffyl, y pilyn pwn a chawell o boptu a wasanaethai i gludo. Defnyddid y ferfa freichiau i deilo yn aml

  1. Cyfansoddiadau Eisteddfod Bangor, 1890.