Tudalen:Cwm Eithin.djvu/26

Gwirwyd y dudalen hon

Gan nad oedd troliau, nid oedd ffyrdd o ddim trefn. Gwnaed ffyrdd newyddion, a lledwyd yr hen rai bron ym mhob rhan o Gymru, a Lloegr o ran hynny. Heddiw, os sylwir, lle mae ffordd wedi ei thorri trwy ochr gallt, fe welir olion yr hen ffordd yn myned dros ben yr allt.

Yn 1780 y dechreuodd y goits fawr redeg o Lundain i Gaergybi; ond yr oedd y ffordd yn hynod o ddrwg. Yn 1810 penodwyd Comisiwn gan y Llywodraeth i ddwyn adroddiad am ansawdd y ffordd o Lundain i Gaergybi, ac fel hyn y dywedir am y rhan sydd yn rhedeg trwy Gwm Eithin:—

Many parts are extremely dangerous for a coach to travel upon. . . . The road is very narrow, long, and steep; has no side fence, except about a foot and a half of mould or dirt, thrown up to prevent carriages falling down three or four hundred feet into the river. Stage-coaches have been frequently overturned and broken down from the badness of the road, and the mails have been overturned.... There are a number of dangerous precipices, steep hills, and difficult narrow turnings......."

Nid oedd pethau nemor gwell yn Lloegr. Yn ei ysgrifau doniol o atgofion am Lerpwl a Chymry Lerpwl, yn Y Tyst, Hydref 16, 1868, a Mai 7, 1869, dywaid "Corfanydd," a anwyd yn Old Hall Street yn 1806, am Lerpwl:—

"Yn 1730 un cerbyd yn unig oedd o fewn y dref i gyd. Nid oedd yr un Goach Fawr (stage coach) yn dod yn nês iddi na thref Warrington, yr hon sydd ddeunaw milltir o ffordd, a hynny am fod y ffordd mor ddrwg fel nad ellid ei thrafaelio. . ."

"Cyn 1817 goleuid y dref ag olew, lampau nad oeddynt fawr well na channwyll frwyn. Ar noswaith dywyll arferai boneddigion gael Linkman i fynd o'u blaen, a rhaff at braffter braich dyn, wedi ei thrwytho mewn pyg, fel y llosgai yn ffagl fawr. Ac yr oedd llawn gymaint o fwg yn eu canlyn : ac nid hawdd oedd eu diffodd. . . Felly dyfeisiwyd y ffagl ddiffoddydd, nid yn unig i ddiffodd y ffaglen, ond hefyd i addurno y gwaith haearn, y ddau bost a gynhaliai y bwa lle y safai y llusern a fyddai o flaen drws tai boneddigion."