Tudalen:Cwm Eithin.djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

Yn ystod Rhyfel Napoleon yr oedd y wlad hon, fel holl wledydd Ewrop, wedi ei dwyn i dlodi ac angen mawr. Yr oedd prinder bwyd trwy'r byd. Yn ystod y cyfnod hwn yr anfonwyd Mr. John Gladstone, tad yr Anrhydeddus William Ewart Gladstone, i'r America i chwilio am ŷd; ac anfonwyd pedair ar hugain o longau ar ei ôl. Ond methodd â chael dim, a dyna'r pryd y dangosodd ei fedr trwy brynu nwyddau gwerthadwy eraill yn lle dyfod â'r llongau adre'n wag. Yn ychwanegol at ddinistr y Rhyfel caed nifer o gynhaeafau mall, hynny yw, tymhorau mor wlyb fel y methwyd â chael yr ŷd yn sych. Ni ellid ei bobi gan ei fod fel toes neu glai; ni ellid gwneud dim ohono ond cacen gri ar y radell. Cyrhaeddodd y prinder ei eithaf nod, yn enwedig yng Nghymru, yn 1816, pryd y dywedir na chaed ond tri neu bedwar o ddyddiau sych o ddechrau Mai hyd ddiwedd Hydref. Bu cannoedd a miloedd farw o newyn a nychtod trwy ddiffyg cynhaliaeth briodol. Dyma bennill o gywydd a ganodd " Gwallter Mechain " i'r flwyddyn honno :-

CYWYDD Y CYNAUAF GWLYB, 1816.[1]

'Leni ni bu hardd-gu hin,
Ni ffynnodd ein Gorphenaf,
Pob dyffryn a glyn yn glaf;
Yn Awst, gwlyb wair mewn ystod,
Medi heb fedi i fod.


Er yr angen a'r tlodi, bu'r Seneddwyr, sef y tirfeddianwyr, yn ddigon calon galed i basio Deddf 1815 nad oedd ddim gwenith i'w ollwng i'r wlad nes y byddai yn £4 y chwarter; ac yr oedd yr haidd yn brin ac uchel ei bris. Mewn gwirionedd yr oedd popeth at wasanaeth teulu yn ddrud iawn. Yr oedd fy nhaid a'm nain yn cadw siop yn un o bentrefi'r cylch y blynyddoedd hyn, ac yn ffodus, ymysg toreth o hen bapurau a adawodd fy nhaid ar ei ôl ac a ddaeth i'm meddiant i, mae lliaws o invoices y merchants o Gaer y deliai a hwy' yn nodi'r prisiau. Gweler enghraifft ar y tudalen nesaf.

  1. Gwaith Walter Davies, Gwallter Mechain, 3 cyf., Caerfyrddin, 1868.