Tudalen:Cwm Eithin.djvu/30

Gwirwyd y dudalen hon

wr er cael arian i brynu lluniaeth i'r teulu a thalu'r rhent. Pan oeddwn yn fachgen ieuanc clywais Richard Jones, Tŷ Cerrig, yn adrodd hanes fel y cadwodd ei fam ef ei theulu rhag y newyn du pan oedd ef yn fachgen bach. Yr oedd Richard Jones yn gefnder i "Jac Glan y Gors," yn ŵr o gof clir a chrebwyll pur gryf. Yr oedd wedi croesi'r deg a thrigain oed pan oedd yn mynd dros droeon ei yrfa gyda'm taid a'm nain, ac y mae dros drigain mlynedd er hynny. Bu Richard Jones farw Awst 21, 1875, yn chwech a phedwar ugain mlwydd oed. Felly y mae dros gant ac ugain o flynyddoedd er yr amser y cyfeiriai ef ato, blynyddoedd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd yn gyfoed â'm taid, a ganwyd ef 1789 neu 1790.

Ffarm fechan oedd Tŷ Cerrig ar fin y ffordd dyrpeg, yn godro pedair neu bump o wartheg, yn cadw un ceffyl, yn magu pedwar neu bump o loeau, yn pesgi dau neu dri o foch, ac yn lladd un at eu hiws, a lle i tua hanner cant o ddefaid ar y mynydd. Fel hyn yr adroddai Richard Jones, ac er i amryw bethau fyned dros fy mhen er pan glywais ef, credaf y gallaf adrodd ei stori air am air. Cofiaf y wedd oedd ar ei wyneb wrth adrodd fel y cadwodd ei fam ef a'r teulu yn fyw, ac fel y nodiai fy nain Amen i'r hyn a ddywedai, a thaflai fy nhaid a hithau ambell gwestiwn a gair i mewn i'r ymddiddan:—

"Pan oeddwn yn hogyn bach cofiaf yn dda fel y cadwodd mam nhad, a hithau, a chriw ohonom ninnau blant, rhag llwgu un flwyddyn. Yr oedd yr ŷd wedi ci ddifetha bron i gyd ar y maes oherwydd cynhaeaf diweddar, a diffyg tywydd i'w gael i mewn Yr oedd hynny oedd yn weddill yn fall, ac yn dda i ddim ond yn fwyd moch. Yr ŷd yn ddrud iawn, a ninnau heb ddim arian i'w brynu. Yr oedd canoedd o deuluoedd yng Nghymru yr un fath â ninnau; y gaeaf wedi dyfod, a newyn yn hyll dremu yn ein hwyneb. Fy nhad bron a gwallgofi wrth feddwl am y gaeaf du oedd o'n blaen. Un noson torrodd fy mam ar y distawrwydd llethol drwy ddywedyd wrth fy nhad, ' Mi wna i fargen â thi; mi ofala i am fwyd i ni a'r plant trwy y gaeaf os gwnei di, heblaw gofalu am y gaseg, y gwartheg a'r moch, gorddi, golchi'r llestri, gwneud y gwlâu ac ysgubo'r tŷ. Mi wna i y menyn fy hunan.' 'Sut yr wyt ti yn mynd i wneud?' meddai fy nhad, a'i ddagrau yn treiglo i lawr ei ruddiau. 'Mi â i ati i weu,' ebe hithau. 'Mae yma