wlân. Rhaid i ti ei gardio bob yn dipyn ac i minnau ei nyddu.' Gwnaed y fargen, fy nhad yn gwneud gwaith y tŷ heblaw gwaith y ffarm, a'm mam yn gweu. Codai yn fore ac arhosai ar ei thraed yn hwyr. Nid oedd yn cael ond pum neu chwech awr o gysgu allan o'r pedair awr ar hugain. Ei thasg oedd gweu tair hosan bob dydd."
"Unwaith bob pythefnos fe âi fy mam ar gefn y gaseg i Rithyn, dros Fynydd Hiraethog, pellter o tua phymtheng milltir, a'i phecyn sane gyd â hi i'w gwerthu i'r saneuwyr, ac am yr arian prynai beced o haidd a deuai ag ef adre gyd â hi, i'w falu i wneud bwyd i ni. Felly cadwodd ni yn fyw hyd nes y caed cynhaeaf drachefn."
Cofier nad rhyw socs byrion a wisgid yr oes honno, 'sanau yn cyrraedd dros y pen glin, yn mesur o flaen y troed i'r top yn agos i dair troedfedd.
Onid oes rhyw reddf ryfedd mewn mam i ofalu am ei theulu? Yr oedd mam Richard Jones, Tŷ Cerrig, yn arwres o'r dosbarth blaenaf. Dylai ei henw hi a llawer un debyg iddi gael ei gerfio yn y graig â phlwm; ond methaf yn lân yn awr â bod yn sicr o'i henw; Phebi Jones, Tŷ Cerrig, yr wyf yn meddwl, os nad wyf yn cymysgu ac mai dyna oedd enw gwraig Richard Jones. Tybed a oes merch yng Nghymru heddiw a allai wneud gwrhydri tebyg? Diau fod, pe deuai'r angen.
Un o flynyddoedd y prinder mawr y soniai yr hen bobl yn fynych amdani oedd yr un y cyfeiriai Richard Jones ati; blwydd- yn â'r cynhaeaf wedi methu, a'r hyn a allwyd ei gael i'r gadlas yn fall ac yn anfwytadwy; deddfau'r ŷd yn eu llawn rym; y môr yn gaeedig; y bwyd yn brin; y prisiau yn uchel ac allan o gyrraedd y werin dlawd pan geid ychydig ar werth; a'r bobl yn ceisio ymgynnal ar fresych, a gwreiddiau, a thatws a halen. Gresyn na chawsid rhywun medrus i ddisgrifio bywyd gwledig yn un o gymoedd neilltuedig Cymru yn ystod un o'r blynyddoedd hyn, dyweder y flwyddyn yr aeth y tatws yn ddrwg y tro cyntaf. Blwyddyn ddychrynllyd oedd honno yn hanes Cymru Arferai'r hen bobl gyfrif amser o'r adeg yr aeth y tatws yn ddrwg, gan mor ddwfn yr oedd tlodi ac angen y flwyddyn wedi eu hargraffu ar eu meddwl.
Dioddefodd ein cyndadau yng Nghymru oddi wrth dywydd anffafriol, cynhaeaf diweddar, a bara mall. Fe ŵyr pawb sydd yn gwybod rhywbeth am amaethyddiaeth y byddai cynhaeaf