Tudalen:Cwm Eithin.djvu/32

Gwirwyd y dudalen hon

ŷd o fis i chwech wythnos yn ddiweddarach yng nghymoedd Cymru hyd o fewn, dyweder, hanner can mlynedd yn ôl nac ydyw yn awr. O hynny ymlaen mae cyfnewidiad graddol wedi digwydd yn amser medi. Fe gofiaf fi yn dda ddynion Cwm Eithin yn myned bob blwyddyn am fis neu ragor o gynhaeaf i Ddyffryn Clwyd a Sir Amwythig, ac yn dyfod yn ôl mewn pryd i'r cynhaeaf i Gwm Eithin. Beth sydd yn cyfrif am y gwahân— aeth nis gwn. Nid wyf yn meddwl mai y rheswm yw bod y tyddynwyr yn hau yn gynharach nag yr arferent, oherwydd byddai yr hen bobl yn ofalus iawn i hau ceirch yng nghyfnod y "Tridiau deryn du a dau lygad Ebrill," sef y tri diwrnod olaf o Fawrth a'r ddau gyntaf o Ebrill os ceid tywydd ffafriol, ac nid ydynt yn hau lawer cynt yn awr. Mae'n debyg fod a wnelo'r dull o drin a gwrteithio'r tir rywbeth â'r cyfnewidiad. Felly gan y byddai y cynhaeaf yn ddiweddar yr oedd yn llawer mwy agored i gael ei ddifa ar y maes ar flwyddyn wlyb nag yn awr. Rhoddaf rai enghreifftiau i ddangos mor ofnadwy o galon galed oedd rhai o gyfoethogion Cymru yr adeg honno, fel y dialent ar y werin dlawd am eu gwaith yn mynnu crefydda yn ôl eu cydwybod a'u syniadau eu hunain, yn lle gwneud fel y gorchmynnid iddynt gan eu huchafiaid. Ni welodd Cymru gyfnod caletach, sef â mwy o brinder bwyd ynddo, na'r rhan olaf o'r ddeunawfed ganrif, a hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd yr un fath yn Iwerddon. Bu miloedd farw yno o newyn; a byddaf yn gwrido wrth feddwl mai Cymro oedd un a fu dros Lywodraeth Prydain Fawr yn difa llawer eraill ohonynt, ac a ddywedodd ar ôl dychwelyd o'r lladdfa, y "dylid anfon byddin i'r Werddon bob saith mlynedd i'w chwynnu a'u cadw i lawr."

Yn Eisteddfod Caernarfon, 1894, cynigiwyd gwobr o £25 am y nofel orau yn disgrifio bywyd gwledig yng Nghymru. Enillwyd y wobr gan fy hen gyfaill " Elis o'r Nant." Dewisodd y cyfnod yn dilyn Rhyfel Napoleon, cyfnod yr " ŷd cwta diben. "Robert Sion o'r Gilfach"[1] y galwodd y nofel, a dywaid ei bod wedi ei sylfaenu ar ffeithiau.

Dyma a ddywaid "Elis o'r Nant":—

"Byd blin a dryccin na fu erioed y fath beth, fu y tymhor gauaf a'r haf dilynol,ar ol yr "yd cwta," a'r "haf heb

  1. Robert Sion o'r Gilfach, gan "Elis o'r Nant," Caernarfon, 1894.