Tudalen:Cwm Eithin.djvu/33

Gwirwyd y dudalen hon

wair nac ŷd,"—heb alw am bladur, na chryman, na 'sigl' chwaith. Ceid pobl dlodion yng ngwahanol rannau o'r wlad mewn sefyllfa o newyn. Ymborth i bobl, a phorthiant yr anifeiliaid, oedd mor brin, fel y bu y naill a'r llall ar fin newyn ar hyd y gauaf. Ac wedi gwawrio o'r haf, tra y dygodd y tyfiant ffrwythlawn ymwared llwyr i'r anifeiliaid, ni fu hynny ond ychwanegu at y trybini yr oedd y trigolion ynddo yn flaenorol. Ni feddid arian i brynu ymborth, a phe buasid yn meddu cyflawnder o arian, ceid fod y fath brinder yn y wlad, fel y gallasai un gerdded aml dro i'r farchnad a gorfod dychwelyd heb gymaint â phiolaid o un math o flawd, tra yr oedd y teulu gartref ar fin newyn. Hyn oedd y rheol gyda'r oll braidd o deuluoedd tlodion drwy holl Gymru. Nid yn unig gofynnid, ond mynnid pedwar swllt am phiolaid o flawd ceirch yn v melinau a'r marchnadoedd, ac yn llawn mor fynych ag y byddai ganddynt, ni fyddai gan y melinyddion yn y melinau, na'r maelwyr yn y marchnadoedd, flawd ceirch nac un math arail i'w gynyg ar werth. Yn y cilfachau gwledig,—tu allan megis i'r byd,—anaml y defnyddid blawd gwenith ond i wneyd uwd peilliaid i fwydo plant sugno; ac yn ddigon aml byddai raid i'r rhai hynny foddloni ar "rual manion blawd ceirch" neu flawd haidd, fel y byddai yn digwydd.

"Gwelwyd aml hen wr—yr un modd hefyd aml hen wraig dlawd—yn hwylio yn foreu oddicartref, gyda chylla digon digon gwag, heb flawd yn y gist, na thamaid o fara yn y cwpbwrdd, gan adael rhawd o blant ar newynu yn y tŷ, i fyned gryn bellder, ambell dro ddeg neu ychwaneg o filltiroedd i ryw felin neu borthladd i chwilio am flawd i ddiwallu mewn rhan anghenion y teulu, ac efe neu hyhi ei hunan yn eu plith; ond yn gorfod dychwelyd gan amlaf yn benisel gyda'r cwdyn yn wag, i weled y teulu gartref " bron gwefrio eisieu bwyd," tra yntau neu hithau heb ddim, na golwg y ceid un math o foddion o unlle " i gadw newyn marwol draw." Ni fyddai dim i'w wneyd ond casglu gwraidd pob math o lysiau, deiliau, a gwneyd defnydd o'r cyfryw i gadw enaid a chorff ynghyd, fel y dywedid.

"Angen yw tad dyfais, onide? Llwyddwyd i wneyd bara o gloron, yr adeg honno y daeth y ddyfais allan, yn gymysgedig ag ychydig o flawd gwenith. Y mae yr arferiad o wneyd "bara tatws" mewn bri hyd heddyw fel tamaid