Tudalen:Cwm Eithin.djvu/35

Gwirwyd y dudalen hon

wneyd un math neullduol o ddarpariaeth gelfyddydol at ddadlwytho llongau o un math, ni fu un erioed ag y deuai i mewn iddo, ac yr elai allan ohono, fwy o fan longau. Er mor anwybodus oedd pobl yr adeg honno, fe wyddent yn eithaf da am ddeddf yr ŷd; ond 'yr oedd pris yr ŷd wedi myned i fyny i'r fath raddau, fel yr oedd rhyddid i gludo ŷd a blawd o'r gwledydd tramor, i'w werthu yn unrhyw fan yn y deyrnas hon; a than aden y rhyddid hwnnw yr hwyliasai y llong hon o'r Ysbaen yn llwythog.

Lledaenwyd y newydd am laniad y llong fel tân gwyllt, ac heb oedi dim gwelid pobl yn hwylio tuag yno—rhai gyda chydau ar eu cefnau, ac eraill yn marchog, gan ddwyn gyda hwy sach, ac ystrodyr pwn, fel y gellid cludo sachaid yn ol. Ym mhlith y llu gwelid Mari gyda chwdyn bychan, glân, dan ei chesail, yn cyflymu ym mlaen yn llawn chwys, yn gwneyd a allai i frysio, er mwyn dychwelyd gyda blawd i'w bobi i ddiwallu anghenion y plant. Bu raid iddi hwylio ei cherddediad y boreu heb ddigon o ymborth, a hynny gafodd o'r fath waelaf, ac yn gwbl ddifaeth—dim ond deiliau wedi eu coginio, fel y sylwyd yn flaenorol. Ni feddai ond rhyw ychydig sylltau at brynu blawd, a phe buasai ganddi chwaneg o arian, y mae yn amheus a allasai gludo mwy na gwerth hynny o arian a feddai, gan mor ddinerth oedd, ar ol treulio agos flwyddyn gyfan ar lawer llai na digon o ymborth. Gorfodid hi i orphwys yn fynych ar y ffordd, a gwisgai olwg luddedig, wedi " ymlâdd yn lân," fel y dywedid. Pe mai hi yn unig a fuasai yn y fath sefyllfa newynog a dihoenllyd, y mae yn ddiau y buasai yr olwg arni yn ennill tosturi, ond, fel yr ydys wedi dweyd yn barod, yr oedd nid [yn] unig y tlodion, ond y ffermwyr a phob dosbarth agos yn yr un sefyllfa—pawb ar fin newyn, ac agos wedi dyfod i gredu mai newynu a wnaent.

"Ni chwanegodd cyrhaedd pen y daith ddim at na chysur na llawenydd y rhai ddaethant o bellder ffordd i chwilio am flawd i ymlid ymaith newyn o'u preswylfeydd, yr hwn oedd eisoes wedi dyfod i mewn; rhai o'r teuluoedd yn barod wedi eu claddu, ac eraill mewn gwaeledd, yr oll wedi eu ddwyn oddiamgylch gan, ac yn codi o, ddiffyg lluniaeth. Pan wnaethant eu hymddangosiad yn y porthladd, mynegodd v perchennog ei fod wedi gwerthu y blawd oll i fonheddwr tra hysbys yn y wlad, Syr Wmffra Garanhir, un yn meddu