etifeddiaeth yn y cyffiniau, ac yn terfynu ar un Nana Wyn. Meddai rai cannoedd o gŵn hela, bytheuaid, milgwn, a phob math arall, a chlybu yntau fel eraill am laniad y llong, a daeth yno o Hafod—y—re, ei balasdy, i brynu yr holl flawd i fwydo ei gwn. Felly, bu raid i'r ymwelwyr anffodus ddych— welyd yn ol, yn bendrist gyda'u cydau a'u sachau, oll yn weigion, i wynebu yr un gelyn eilwaith, heb arfau o fath yn y byd, i ymladd ag ef.
**********
"'Sobr iawn wir ydi mund adra i weled y plant bach ar newynu, yn disgwyl budd gin i flawd i neud bara a fina heb ddim. Ond pam raid i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd trwy i anghredu, ac ynta yn dyud yn blaun, 'Ei fara roddir iddo, ei ddwfr fudd sicr,' a dyma ran o'r addewid wedi i chaul yn barod, ac mi ddaw'r llall ond gadal i amynadd gaul i fferffaith waith'.
"Siaradai a hyhi ei hun fel hyn, a mawr ofidiai, ac i raddau gollyngai ddagrau, am ei bod yn gorfod troi adref heb ddim i'r plant; a hithau wedi dyweyd pan yn cychwyn am i'r eneth hynaf ferwi dwfr yn barod erbyn y deuai yn ol, fel y gellid taro ati i bobi heb golli dim amser. Mor drallodus ei meddwl y teimlai, yn nghanol ei ffydd gref yn ei addewidion diamodol Ef,—wrth feddwl myned adref i'w siomi, ac i'w gweled yn dihoeni ac yn marw o newyn. Pan yn dal ati i synfyfyrio a siarad bob yn ail, clywai sŵn o'r tu ol tebyg i sŵn ceffyl yn carlamu. Er troi yn ol i edrych ni allai weled am fod y llannerch yn orchuddiedig a choed , a bryn o amgylch yr hwn y troellai y ffordd yn cyfyngu rhyngddi a'r gwrthddrych. Er ei syndod pwy ganfyddai ond Rhobert y Gilfach, yn carlamu o'r coed, ac yn gwaeddi arni sefyll.
"Nis gallai lai na llawenhau pan y canfu ef. Cofiai iddi gael llawer o help oddiyno, ac arferai gael yn wastad hyd nes y daeth y car i guro ei sodlau yntau, fel pob un. Byddai bob amser yn hoff o'i weled, a mawr ofidiai na fuasai yn rhoi i fyny yr arferiad o yfed i ormodedd, a dyfod a byw yn nes at yr Arglwydd. Dyn da ragorol yr ystyriai hi ef, yn nghanol ei ffaeleddau