Roberts, a adawodd £10,000 i Gyfarfod Misol Dyffryn Clwyd at dalu cyflog i ŵr am ofalu am eglwysi bychain bro ei enedigaeth. Arferai ef a minnau gael aml ymgom am yr amser gynt. Magwyd Mr. Roberts yn Nantglyn, lle'r oedd ei dad yn ffarmwr cyfrifol
"Clywais fy nhad," meddai," yn adrodd hanes y newyn ddechreu y ganrif ddiweddaf; yr oedd llawer yn dioddef eisieu bwyd oddeutu Nantglyn a'r cylch. Cafodd fy nhad wybod fod llong wedi dyfod i Ruddlan a llwyth o haidd. Aeth ar ei union i Ruddlan a phrynodd y cyfan, rhag ofn i rywun dd'od a'i brynu a chodi crogbris am dano wrth ei ail werthu i'r tlodion. Gwerthodd ef i'r ffermwyr a'r gweithwyr am yr un bris yn union ag yr oedd wedi ei dalu am dano. Rhoes reol bendant i'r ffermwyr a fyddai yn prynu, os oedd ganddynt wedd i'w gario adre, fod yn rhaid iddynt gario cyfran y mân dyddynwyr a'r gweithwyr tlodion yn rhad."
Felly cafodd tlodion cylch Nantglyn ddeunydd bara am bris rhesymol a'i gario o Ruddlan adre am ddim.
Arferai y Parch. Simon Llwyd, B.A., Bala, fyned i'r lleoedd bach o gylch y Bala i bregethu. Fel y gwyddys yr oedd ef yn ŵr cyfoethog yn byw ym Mhlas y Dre. Un Saboth yr oedd wedi bod yn pregethu yn un o gymoedd y cylch, Llidiardau neu Dalybont. Hen wraig dlawd a ofalai i raddau am yr achos; a chyda hi yr oedd Simon Llwyd yn ciniawa. Pan ddaeth adre yr oedd ei ferched yn chwilfrydig iawn i wybod pa beth a gafodd i'w ginio, ond nid oedd ef yn barod i ddywedyd. Daliai y merched i'w blagio. "Beth a gawsoch chwi i'ch cinio, nhad? " "Wel," ebe yntau o'r diwedd, "os rhaid i chwi gael gwybod, mi gefais feipen wedi ei berwi a halen, ac mi 'roedd hi'n dda."
Na feddylier chwaith mai byr ei barhad fu cyfnod y caledi. Tybiodd "Jac Glan y Gors," fel llawer proffwyd o'i flaen, fod y wawr ar dorri yn ei ddyddiau ef, ond nid felly y bu. Canodd "Meurig Ebrill" am galedi'r amserau yn 1847.[1] Yn 1859 y cyhoeddodd "Eos Iâl" (gŵr a fu yn byw yn Llety'r Siswrn yng ngwaelod Cwm Eithin) Ddrych y Cribddeiliwr,[2] lle y ceir Pryddest y Weddw Jesebel a Nabal. Disgrifia'r bryddest y weddw