Tudalen:Cwm Eithin.djvu/39

Gwirwyd y dudalen hon

yn myned at ddrws Jesebel a Nabal i geisio prynu peciaid o flawd, rhag iddi hi a'i phlant newynu. Yr oedd ganddi bum swllt i dalu, ond yr oedd y blawd wedi codi i bum swllt a cheiniog. Wedi i Jesebel a Nabal ymgynghori, gwrthodwyd hi am ei bod geiniog yn fyr.

Parhaodd cymylau duon i hofran wrth ben y werin yn hir. Cyrhaeddodd dialedd y tirfeddianwyr ei eithafnod yn 1868, ac ni ddisgynnodd cawod eu melltith yn drymach yn un man nag yng nghylchoedd Cwm Eithin.