Tudalen:Cwm Eithin.djvu/40

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD II

Y TRIGOLION: Y FFERMWYR

Roedd y ffermwyr yn ddosbarth digon bethma at ei gilydd, mewn llawer o bethau yn debyg iawn i relyw eu dosbarth; digon canolig a thlawd o ran eu hamgylchiadau; rhai ohonynt yn ddigon balch, a dangosent hynny trwy gael rhywbeth newydd yn bur aml i'w wisgo ar y Sul, a thrwy wenu'n awgrymiadol ar ei gilydd yn y capel. Pobl sbeitlyd y byddem ni yn galw y rhai hynny; a phan fyddai raid i rai ohonom, yn blant, fyned i'r capel â chlytiau ar ein pennau gliniau, teimlem i'r byw eu gwawd. Ceisiai rhai o'r dosbarth, a feddai werth ychydig o gannoedd o stoc, ymddangos fel pe baent yn werth miloedd, a'r rhai oedd â gwerth ychydig o ugeiniau eu bod yn werth cannoedd. Yr oedd yno hefyd, fel y ceir bron ym mhob ardal, ambell un yn ceisio dynwared tlodi, tra y credai ei gydnabod ei fod yn dda allan Credai rhai yr hen ddywediad oedd wedi dyfod i lawr o dad i fab, sef "fod yn rhaid cael côt grand i fenthyca'r rhent, ond y gwnâi un glytiog yn iawn i dalu'r rhent." Diau fod y dywediad wedi tarddu o sylwi y byddai'r meistriaid tir yn codi y rhent os gwelent rai o'u tenantiaid â golwg ry raenus arnynt.

Yr oedd un o'r dosbarth yma, Sion y Fawnog, yn byw ym mhen isaf y Cwm. Cwynai bob amser fod ei dyddyn yn ddrud, a'i fod yn methu â thalu ei ffordd. Arferai fyned at y stiwart i gwyno, a chafodd gau darn yn rhagor o'r mynydd fwy nag unwaith. Ai at y stiwart ychydig cyn amser y rhent i ofyn am fenthyg rhyw £10, oherwydd na fynnai er dim i'w feistr wybod ei fod yn methu â thalu'r rhent, gan ddywedyd fod ganddo foch neu ddeunawiaid i'w gwerthu ymhen tair wythnos neu fis, ac y deuai â hwy yn ôl. Cafodd fenthyg droeon, oherwydd Cymro a ffarmwr caredig oedd y stiwart; a gofalai Siôn fyned â hwy yn ôl yn brydlon bob tro. Ymhen amser dechreuodd y stiwart ddrwgdybio Siôn, oherwydd yr oedd y Fawnog yn dyddyn gweddol helaeth, er mai lle wedi ei gau o'r mynydd oedd, ac yr oedd y rhent yn isel iawn. Methai'r stiwart â chredu bod Sion mor dlawd ag yr honnai. Dechreuodd gynllunio pa fodd i gael at y gwir. Y tro nesaf y daeth Siôn am fenthyg, marciodd ddeg sofren a rhoddodd hwy iddo. Pan ddaeth diwrnod y rhent, fe dalodd Siôn ymysg eraill, ond nid oedd y deg sofren