Tudalen:Cwm Eithin.djvu/41

Gwirwyd y dudalen hon

marciedig ymysg ei arian. Ymhen tua mis gwerthodd Siôn y deunawiaid, a daeth a'r benthyg yn ôl, ac yn hynod o ddiolchgar ei fod wedi gwerthu y deunawiaid braidd yn gynnar, ac ofnai o dan bris, er mwyn cadw'i air â'r stiwart. Edrychodd yr hen stiwart y deg sofren yn fanwl, a heb os nac onibai, wele y rhai y cawsai Siôn eu benthyg ychydig cyn diwrnod y rhent. Beth bynnag a fu'r ymddiddan rhwng y ddau, ni ellir ond dyfalu, ond y mae'n ffaith na welwyd Siôn byth ar ôl hynny yn myned at y stiwart i nôl benthyg arian at y rhent. Dywedir i Siôn wneuthur ail gynnig ymhen amser mewn ffordd arall. Aeth at y stiwart i gwyno fod ei ddegwm yn uwch na'r rhent ac i edrych a ellid cael rhyw ostyngiad y ffordd honno. "Ho, dyna sydd yn dy flino di, Siôn? Mi ofala i na chaiff hynny mo dy flino di eto. Mi goda i dipyn ar dy rent di fel na chaiff dy ddegwm di ddim bod yn uwch na'th rent."

Pan oeddwn yn hogyn, yr oedd rhaib y ffermwyr mawr am ragor o dir yn ddihareb. Rhuthrent am ddarnau o'r mynydd. Yr oedd yn adeg rhannu'r mynydd yng Nghwm Eithin, ond rhoddaf hanes rhannu'r mynydd ymhellach ymlaen. Gwyliai rhai am y tyddynnod bychain yn myned yn wag, ac aent at y meistr tir a chynigient fwy o rent, ac fel rheol llwyddent i gydio maes wrth faes, yn enwedig os byddai'r adeiladau yn wael, rhag i'r meistr fynd i gost i adgyweirio. Cysylltwyd cannoedd o fân dyddynnod yng Nghwm Eithin a'r mân gymoedd sydd yn rhedeg allan o hono, yn ystod y cyfnod y soniaf amdano, a theneuwyd y boblogaeth.

Ond os cymerir popeth at ei gilydd, credaf y cymharai amaethwyr Cwm Eithin yn dda ag amaethwyr unrhyw ran o'r wlad. Wele ddisgrifiad Sais, teithydd enwog, ddiwedd y ddeunawfed ganrif, o drigolion Cwm Eithin:

"On reaching this place, we were agreeably surprised to find it thronged with people, true Welsh characters, who were assembled here to celebrate a fair. The sharp features and quick eyes of the men, enlivened by the bargains they were driving, and the round good-humoured faces of the women, animated with the accustomed hilarity and fun of the day, threw a cheerfulness over the scene, that would have stript spleen herself of the vapours could she have witnessed it. Add to this, my dear sir, the awkward gambols and merry- andrew, and the strange gabble of a Welsh quack-doctor