the grimace of a puppet-shew man, and the bawling of three or four ballad-singers, who chaunted ancient British compositions to different tunes; and, perhaps, your fancy cannot form a scene more ludicrous. . "[1]
Rhaid bod trigolion Cwm Eithin yn bobl pur ddeallus cyn y caent gymeriad fel yr uchod gan Sais, a rhaid oedd iddo addef eu bod hwy wedi cael mwy o hwyl am ei ben ef a'i gyfaill nag a gafodd ef am eu pennau hwy, er ei fod ef yn Sais hollwybodol a hwythau yn ddim ond Cymry diniwed.
Credaf fod ffermwyr y cyfnod wedi cael, ac yn cael, cam mawr, a'u galw yn grintachlyd a chaled gan rai a ysgrifenna ac a sieryd am y cyflogau bychain a dalent i'w gweithwyr, yn enwedig gan wleidyddwyr ieuainc na wyddant ddim am fyd caled y ffarmwr. Clywais weinidog ieuanc dysgedig yn ddiweddar yn dywedyd, "Yr oedd gennyf feddwl mawr o John Elias a'i bregethau; ond ar ôl eu darllen a gweled mor ychydig o'u hôl a adawsant ar eu cyfnod, nid ydwyf yn meddwl dim ohonynt." "Beth yw eich rheswm dros ddywedyd na adawodd John Elias a'i bregethu ddim dylanwad er daioni ar ei gyfnod?" ebe un oedd yn gwrando. "Yr oedd y ffermwyr," ebe yntau, yn para i drin eu gweision fel cŵn gan eu hanner llwgu a'u gorfodi i gysgu yn llofft yr ystabl."
Ceisiaf ddangos nad oedd bosibl iddynt dalu rhagor o gyflog, ac nad oedd le i'r gweision gysgu yn y tai, ac mai llofft yr ystabl oedd yr orau mewn llawer amaethdy. Beth a allasai pregethwr fel John Elias ei wneud i wella'r pethau hynny? Ni ddeuai y tirfeddianwyr i wrando arno; onid hwy oedd wrth wraidd y cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn o geisio codi gwrthryfel yn Iwerddon?
Nid rhai crintachlyd oedd ffermwyr Cwm Eithin. Na, yr oedd yn eu mysg lawer o wŷr a gwragedd caredig iawn. Ond caled iawn oedd eu byd hwythau. Gwesgid hwy i'r eithaf gan y meistr tir a'r caledi a ffynnai ar y pryd. Ni allent fforddio talu rhagor o gyflog. Adwaenwn lawer ffarmwr a weithiodd yn galed, ef a'i wraig, ac yn aml ddwy neu dair o ferched a dau neu dri o feibion yn gweithio heb erioed gael dimai o gyflog, dim ond ychydig o ddillad, ac feallai swllt neu ddau yn eu poced i fyned i'r ffair. A phan briodent yn ddeuddeg neu bymtheg ar hugain oed, ni feddai'r tad yn aml fwy na digon i brynu dwy
- ↑ A walk through Wales, 1797, gan Richard Warner, Bath.