Tudalen:Cwm Eithin.djvu/43

Gwirwyd y dudalen hon

fuwch neu dair i'w rhoddi iddynt i ddechrau byw. Wedi gweithio'n galed am ugain mlynedd, 'ni fyddai'r swm a gaent yn aml yn fwy na 30/- neu 40/- ar gyfer pob blwyddyn o waith. Clywais lawer gwaith rai yn dywedyd fel hyn, "Mae'r ffarmwrs yn bobl garedig iawn; fe gewch bryd o fwyd ganddynt pan fynnoch, a thipyn o datws neu foron, a chanied o laeth, a selen o 'fenyn i fyned hefo chwi adre; ond gofynnwch am 1/- at ryw achos da, mae bron yn amhosibl ei gael ganddynt," heb ystyried mor ychydig o arian oedd yn myned trwy ddwylo'r ffermwyr mewn blwyddyn, pan werthent ddeunawiaid am £3/10/0; bustych dwyflwydd am £6; buwch am £7; ceffyl am £12; mochyn tew am 3c. y pwys; ymenyn am 5c. y pwys; yr wyau yn ½c. yr un neu ddeunaw am 6ch. Ac yr oedd raid talu'r rhent, y trethi, a'r cyflogau allan o hynny.

Bûm yn holi ffermwyr cyfrifol, rhai y gellid dibynnu ar eu tystiolaeth, beth a allai swm yr arian fod a dderbyniai ffarmwr mewn blwyddyn. Yr atebion a gefais oedd, os gallai ffarmwr droi ei rent drosodd dair gwaith mewn blwyddyn y byddai yn gwneud yn dda iawn. Felly cymerer ffarm drigain i ddeg a thrigain o aceri, a dyweder fod ei rhent yn £50, yn ôl rhenti y dyddiau hynny am ffermydd yn y cymoedd. Felly fe dderbyniai'r ffarmwr 150 mewn blwyddyn. Cymerai'r meistr tir £50 oddi arno. Ai yr ail £50 i dalu'r trethi a'r degwm, cyflog gwas a morwyn y byddai'n rhaid eu cael i amaethu lle o'r maint Byddai raid i'r £50 olaf dalu bil y sadler, y gof, y saer, y crydd, y teiliwr, y ffatrwr, a'r gwehydd, a phrynu ychydig o ddillad, na allai eu cynhyrchu o wlân ei ddefaid, iddo ef a'i briod, ac feallai nifer o blant ieuainc; ychydig o de a siwgr at iws y tŷ, ambell bwys o siwgr loaf ar gyfer dieithriaid, a chyfrannu ychydig sylltau at achos crefydd.

Dyma ddyfyniad o waith "S.R." ar y cwestiwn uchod, oherwydd nid oes dim fel adnod i brofi pwnc. Yr oedd "S.R." ymhlith y gweinidogion cyntaf ar ôl y diwygiad Methodistaidd i ddarganfod y gwirionedd mawr fod gan y saint gyrff yn ogystal ag eneidiau. Llafuriodd ef ac "Ieuan Gwynedd," a Michael Jones, a Thomas Gee, a "Hiraethog," ac eraill yn galed dros ryddid y corff, a'i hawi i'w ran o gynnyrch y ddaear at ei gynhaliaeth. Gwr amlochrog oedd " S.R.," yn meddu crebwyll cryf a gwroldeb diwygiwr. Cyhoeddwyd ei weithiau yn 1856, cyfrol sydd yn amrywiol iawn ei chynnwys, ac yn ddrych o gyflwr Cymru yr hanner cyntaf o'r ganrif ddiweddaf. Diau fod llawer