Tudalen:Cwm Eithin.djvu/44

Gwirwyd y dudalen hon

o'i chynnwys wedi ymddangos yn Y Cronicl a phapurau eraill flynyddoedd cyn hynny. Yr oedd yn un a ymdaflodd â'i holl ynni i ryddhau Cymru o dan iau ei chaethiwed, ac y mae'r gyfrol yn gofgolofn i'w allu, ei fedr, a'i wroldeb di ŵyro. Yn ei bennod addysgiadol a diddorol ar Amaethyddiaeth, disgrifia "S.R." gyflwr gresynus amaethwyr Cymru oherwydd rhenti uchel, traha'r tirfeddianwyr, ac yn enwedig y stiwardiaid. Yr oedd y stiward wedi codi rhent Mr. Careful, Cil Haul Uchaf, ddwywaith neu dair, ac wele hanes y driniaeth a gafodd am ofyn am ostyngiad, a'r ymddiddan rhyngddo ef a'i fab hynaf ar ôl derbyn rhybudd i ymadael.

Cwynodd yr amaethwr wrth y stiward fod rhent ei dyddyn yn uchel, a'i fod yn methu'n lân â thalu ei ffordd. Adroddodd ei gŵyn un diwrnod wrth ei gymdogion yn yr efail. Yn gwrando yr oedd gŵr ieuanc newydd briodi, ef a'i wraig wedi cael swm pur dda o arian ar ôl perthynasau, ac yr oedd yn awyddus iawn am ffarm gan y stiward, ac wedi dechrau cynffonna trwy anfon ambell bresant a thalu am botel o champagne iddo. Cariodd y stori i'r stiward. Anfonodd hwnnw am y ffarmwr, pryd y bu'r ymddiddan a ganlyn rhyngddynt:—

Ar ol dysgwyl yn bur hir oddeutu y drws, cafodd ei alw i mewn. Edrychodd y steward yn llym wgus arno, a dywedodd wrtho, mewn llais cryf garw, na wnai ef ddim goddef iddo gwyno ar y codiad diweddar, fel ag yr oedd wedi gwneud y dydd o'r blaen wrth yr Efail; fod ei rent ef yn bur rhesymol yn wir, ei bod yn llawer îs na rhenti ffermydd cymydogaethol arglwyddi eraill. Nid oedd Ffarmwr Careful wrth gychwyn mor fore tua'r Queen's Head; ac wrth chwysu yn ei frys i gyrhaedd yno mewn pryd, ac wrth ddysgwyl yno ar ol hyny nes oeri braidd gormod-nid oedd ddim wedi dychmygu mai myned yno i gael ei drin a'i athrodi felly yr oedd wedi y cyfan: a darfu i drinfa front fawaidd felly, pan yr oedd yn agor ei glustiau a'i lygaid am ryw newydd cysurus, gynhyrfu mymryn ar ei ysbryd; ac atebodd mewn geiriau braidd cryfach nag a fyddai yn arfer ddefnyddio ar adegau felly, Ei fod ef a'i deulu wedi gwneud eu goreu ym mhob ffordd i drin yn dda; ei fod ef a'i wraig a'i blant yn cydymroi i weithio eu goreu yn fore ac yn hwyr-nad oedd byth na smocio, nac yfed, na gloddesta, na dim o'r fath beth yn eu ty; eu bod wedi gwario i drefnu a gwella y ffarm y cyfan