Tudalen:Cwm Eithin.djvu/45

Gwirwyd y dudalen hon

oll o'r chwe chan punt a dderbyniodd ei wraig yn gynnysgaeth ar ol ei thad; ei fod yn gwbl foddlon er's blynyddau i log yr arian hyny gael myned i wneud i fyny'r talion yn y blynyddau drwg presenol; ei fod wedi hoff-obeithio gallu cadw y £600 yn gyfain i'w rhanu yn gyfartal rhwng ei ferched ufudd a diwyd ar ddydd eu priodi; ond yn awr, fod y £600 i gyd oll wedi myned, ac na byddai y stock ddim yn hollol rydd ganddo ar ol y talion nesaf; ac yn wir nad oedd dim modd iddo ef dalu am y ffarm heb gael cryn ostyngiad. Wrth glywed hyn, dywedodd y steward yn bur sychlyd wrtho, Gwell i chwi ynte roddi y ffarm i fyny.' Yn wir, Syr,' atebai y tenant, rhaid i mi ei rhoddi i fyny os na cheir rhyw gyfnewidiad yn fuan.' 'Hwdiwch ynte,' ebe y steward, 'dyma fi yn rhoddi i chwi notice i ymadael Gwylfair.' Ar hyn, gostyngodd y tenant ei ben, ac atebodd mewn llais isel toredig, y byddai yn galed iawn i'w deimladau orfod ymadael o hen gartref ei dadau; ei fod ef a'i wraig a'i blant yn eu hamser goreu i drin y ffarm, ac y byddent yn foddlon i lafurio ac ymdrechu etto am flwyddyn neu ddwy mewn gobaith am amserau gwell. Ond brys-atebodd y steward yn bur sarug, Yr wyf yn deall eich bod wedi gwario yn barod yr arian cefn oedd genych: gwell i chwi chwilio ar unwaith am ffarm lai: hwdiwch, dyma'r notice i chwi ymadael: rhaid i mi yn awr fyned at oruchwylion eraill—bore da i chwi.

Rhoddodd Mr. Careful y notice yn ei logell, a dychwelodd adref gyda chalon drom iawn; a phan oedd yn gorphen adrodd wrth Jane ei wraig yr hyn oedd y steward wedi ddweyd ac wedi wneud, daeth y tri mab yn annysgwyliadwy i'r tŷ. Daethant haner awr yn gynt nag arferol, am eu bod wedi gorphen cau y gwter fawr yn ngwaelod y braenar, a galwasant heibio i'r tŷ am fara a chaws cyn cychwyn at eu gorchwylion yr ochr arall i'r ffarm. Deallasant ar unwaith fod rhyw newydd drwg, neu ryw amgylchiad cyfyng yn gofidio eu tad a'u mam. Bu tafodau pawb am enyd yn fud, ond yr oedd llygaid y plant yn dadleu fod hawl ganddynt i wybod achos blinder eu rhieni. Penderfynodd y tad i beidio celu oddiwrth ei blant y notice i ymadael ydoedd newydd dderbyn, ac adroddodd wrthynt yr oll a gymerasai le. Gwrandawsant hwythau arno yn fud-synedig; ac ar ol iddo dewi, edrychasant ar