Tudalen:Cwm Eithin.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

eu gilydd yn bur effeithiol, ond heb yngan gair. O'r diwedd, torodd y tad ar y dystawrwydd trwy ddweyd, megys wrtho ei hun, mewn llais trist isel, yn cael ei hanner fygu gan gymysg deimladau, Yr oeddwn i wedi hoff-obeithio y cawswn orphen fy nyddiau yn Cilhaul-uchaf, ac wedi breuddwydio lawer gwaith ganol dydd a chanol nos y cawsai fy llwch huno gyda llwch fy nhadau yn eu hen feddrod rhwng yr Ywen fawr a drws cefn y clochdy, lle y gorphwys rhai lluddedig, ac y peidia yr annuwiol â'i gyffro.' * * * "Ie, ie," ebe y fam, "lle y mae John bach, fy nghyntafanedig anwyl, yn huno yn felus ar fynwes ei dad cu tirion, a lle y mae fy anwyl, anwyl anw"—(ar hyn collodd y fam ei lliw—dechreuodd ei gwefusau grynu—ymrwygodd ochenaid ddofn o gronfa ei chalon; ond nis gallodd orphen ei dywediad). Wrth weled hyny, cododd y mab hynaf ei wyneb mawr llydan iach gwridog; a chyda llais dwfn, cryf, caredig, effeithiol, llawn o deimlad, naill ai teimlad o serch cynhes at ei rieni, neu ynte teimlad o ddigllonedd brwd tuag at y gormeswyr, neu dichon y ddau deimlad yn ferw cymysgedig, dywedodd,-"O fy anwyl fam, na adewch iddynt ladd eich calon fel yna. Y maent wedi gwneyd eu gwaethaf i ni. Na hidiwch mo honynt byth mwy. Na ofnwch hwy ddim yn chwaneg. Os gwnawn ni ein dyledswydd yn y byd yma, nid yw o ddim cymaint pwys pa le bydd ein llwch yn gorphwys. Bydd yn sicr o fed allan o'u cyrhaedd hwy; a byddwn yn sicr o ddihuno yn iach ar alwad gyntaf bore mawr y codi, a deuwn o hyd i'n hen gyfeillion ar darawiad llygad, a deuant hwythau hefyd o hyd i'w "lle" eu hun, a chesglir hwy at eu "pobl," i dderbyn yn ol yr hyn a wnaethant yma. Gwyddoch eu bod wedi creulawn lyncu i fyny yn barod eich £600 chwi. Gwyddoch ein bod ni oll wedi gweithio yn galed iawn, haf a gauaf, drwy wynt a gwlaw, ac oerni a gwres, fore a nawn a hwyr, er eu helw hwy, a'n bod heb ennill rhyngom oll yr un swllt i ni ein hunain. Yr ydym wedi cyson dalu iddynt bob parch ac ufudd-dod yn ein gallu, ond tlawd iawn yw yr ad-dal ydym yn gael am ein holl lafur a'n gofal. Y mae gan Tom Thrift, aradwr y Plas hen, £88 o'i ennill yn awr yn y Savings Bank; ond nid oes genyf fi, er fy mod dair blynedd yn hŷn na Tom, yr un geiniog wrth gefn yn ei chadw erbyn yr amser a ddaw.[1]

  1. Gweithiau Samuel Roberts, Dolgellau, 1856.