Tudalen:Cwm Eithin.djvu/48

Gwirwyd y dudalen hon

wasgarfa, i wrthdystio yn erbyn gwaith tirfeddianwyr yn troi eu tenantiaid o'u ffermydd am bleidleisio yn ôl eu cydwybod yn Etholiad 1868.[1] Ychydig o ran a gymerodd y Doctor erioed mewn cwestiynau gwleidyddol. Pregethu'r Efengyl oedd gwaith mawr ei fywyd. Ond amlwg y teimlai i'r byw oddi wrth y gamdriniaeth a dderbyniai ei gydgenedl oddi ar law y tirfeddianwyr. Wedi sôn am y tyddynwyr yn cael eu troi o'u hen gartrefi, dywaid:

"Yn wir, fy anwyl syr, y mae o'r bron yn ddigon i beri i waed un ferwi i feddwl fod yn Mhrydain Fawr, yn yr hanner diweddaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg—o dan deyrnasiad y Frenhines Victoria—William Ewart Gladstone yn Brif Weinidog-Robert Lowe yn Ganghellydd y Drysorlys—ie, a John Bright yn Llywydd Bwrdd Masnach—y fath ormes yn cael ei ymarfer. Y mae y deyrnas wedi ei deffro i deimlo dros yr anghyfiawnderau y dioddefa yr Iwerddon oddi wrthynt. Ond nid oes dim yn yr Iwerddon yn waeth na hyn. Ac am fod y Gwyddel yn troi yn Ffeniad, yn ddiofal am gysegredigrwydd bywyd dynol, ac yn deall y gallu rhyfeddol sydd mewn cyffroad gwladwriaethol, y mae yn cynyrfu cydymdeimlad cyffredinol o'r bron: tra y mae y Cymro, druan, yn deyrngarol, yn llonydd, yn ufuddhau i gyfreithiau y wlad, yn bur yn ei galon i bendefigion ei wlad; ac heb law hyny, am

'Na lecha byth tu ol i'r gwrych,
I dalu ei rent â phlwm,'

—y mae yr anghyfiawnder a dderbynia efe yn cael myned heibio yn ddiystyr, neu ei wadu; neu, hwyrach, yn cael ei amddiffyn gan rai. Nid wyf fi yn gyfreithiwr; ond byddaf yn meddwl weithiau y gallai ein grasusaf Frenhines, trwy wneud defnydd llai gorthrymus o'i hawliau nag a ymarferir gan y tir-feistri hyn ag yr ydym yn cwyno o'u herwydd, benderfynu eu hachos mewn byr amser, a dwyn rhyddhad i'w deiliaid ffyddlawn a erlidir ganddynt. Os nad wyf yn camgymeryd, y mae yn egwyddor ddiamheuol yn nghyfraith Lloegr, fod yr holl dir yn Lloegr yn cael ei ddal trwy gyfryngwriaeth, neu yn ddigyfrwng gan y goron; gan hyny, y mae yr holl fan ormeswyr hyn eu hunain yn denantiad i'r penadur; ac nid ydynt, ac nis gallant feddianu un

  1. Gweler Tyst, Rhag. 3, 1869.