Tudalen:Cwm Eithin.djvu/49

Gwirwyd y dudalen hon

gyfran o'u hetifeddiaethau, ond fel peth deilliedig oddi wrth y penadur. Hwyrach nad ydyw hyn ond math o ffyg mewn cyfraith Seisnig; ond y mae llawer o'n tirfeistri yn y dyddiau hyn yn gosod temtasiwn gref o flaen y bobl, gan fod y fath allu yn eu dwylaw, i droi ffug yn sylwedd, mewn trefn i weled a ddichon i ryddhad ddyfod iddynt oddi yno. Bu amser pan yr ymunai y bobl ar barwniaid yn erbyn y brenin edryched ein barwniaid yn awr na byddo iddynt demtio y bobl i ymuno a'r penadur, o dan ryw deyrnasiad dyfodol, yn eu herbyn hwy eu hunain. Y mae y bobl mewn rhai manau, yn enwedig mewn parthau gwledig, yn dioddef braidd yr oll o anghyfleusderau yr hen gyfundrefn wriogaethol, ond heb fwynhau dim un o'u manteision; ac y mae yn wallgofrwydd ar ran y rhai sydd yn gormesu arnynt i dybied y bydd i'r fath sefyllfa ar bethau barhau byth. Yr wyf yn siarad yn gryf. Ond yr wyf yn teimlo fod rhai o denantiaid amaethyddol Cymru yn dioddef gorthrymderau lluosog a mawr, a'u bod wedi dioddef yn rhy hir ac yn rhy amyneddgar o danynt; ac y mae yn llawn bryd i'r rhai sydd y tu hwynt i gyrhaedd ysgriw pob meistr tir, agor eu genau dros y mud, yn achos holl blant dinystr."

Geiriau cryfion iawn, onid e, gan ŵr oedd wedi ei ddwyn i fyny yn y traddodiadau na ddylai pregethwr yr Efengyl gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth; ac er y dywaid ymhellach ymlaen nad yw y math yma o feistriaid tir ond eithriadau yng Nghymru, gŵyr pawb mai eithriadau lluosog iawn oeddynt. Rhaid bod dialedd y tirfeddianwyr ar ôl Etholiad '68 yn ofnadwy o gryf cyn y buasai Dr. Owen Thomas yn ysgrifennu'r uchod.

Rhoddaf eto ddarn o waith fy hen weinidog, y Prifathro Michael D. Jones y Bala, dyfynedig gan Dr. E. Pan Jones, a ddengys sut yr oedd pethau yng Nghymru ac yng nghylch Cwm Eithin ddeng mlynedd cyn yr amser yr ysgrifennai Dr. Owen Thomas, sef yng nghanol diwygiad '59, y flwyddyn y ganwyd Tom Ellis. Y mae yn yr hanes ddiddordeb neilltuol i mi, gan yr adwaenwn nifer o'r personau y sonnir amdanynt. Ac onid yng nghapel Soar, a werthodd Syr Watcyn dros ben yr aelodau, pan oedd mawl a gweddi'r saint yn esgyn i fyny yng ngwres y Diwygiad, y bûm yn dysgu yr A B C, ac yn adrodd fy adnod i Michael Jones? Ac nid anghofiais byth mo'r emyn a roddodd Tomos Owen, Tai Mawr, i'w ganu pan brynodd un o'r