ffermwyr yr hen gapel, ac y daeth yn ôl yn eiddo'r addolwyr, er nad oeddwn ond prin ddechrau cerdded ar y pryd:
Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd,
Gwrandewir llais y gwan;
Wel, cyfod bellach, f'enaid prudd,
Anadla tua'r lan.
"Buais yn brwydro deirgwaith â Syr Watcyn, a'i oruchwyliwr. Tua 25 mlynedd yn ol, mwy neu lai, areithiais yn y Bala yn erbyn i Syr Watcyn gadw'r afonydd, gan yr arferant fod yn rhyddion i'w pysgota er cyn cof. Galwyd fi i gyfrif yn bersonol gan y goruchwyliwr, a danfonodd y goruchwyliwr gychwr (boatman) Syr Watcyn at fy nhad i gymeryd fferm Weirgloddwen, yr hon a ddaliai o dan Syr Watcyn. Synodd fy nhad yn fawr, gan nad oedd wedi meddwl rhoi y fferm i fyny, nac wedi derbyn yr un warlin (notice to quit). Pan yr oedd fy nhad yn talu ei rent, dangosodd y goruchwyliwr ysgrif ddienw yn y 'Carnarvon Herald,' a dywedodd, 'Dyma ysgrif o eiddo eich mab chwi.' Gwelodd fy nhad mai bygythiad oedd anfoniad y cychwr i'w anfon o'i dir, os gwrthwynebid Syr Watcyn gan ei fab.
"Fy ail drosedd oedd yn mhen deng mlynedd wed'yn (mwy neu lai), areithio yn erbyn y dreth eglwys, a gwrthwynebu'r goruchwyliwr yn egniol ar y pwnc uchod. Ymddangosodd llawer o ohebiaethau yn y papyrau Cymraeg ar y pwnc. Galwodd y goruchwyliwr ar fy mam, yr hon oedd yn weddw ar y pryd, a dywedodd fod Syr Watcyn am gael y Weirgloddwen, sef fferm fy mam, i'r offeiriad. Y fferm oedd ar ol brwydr y pysgota yn gymhwys i'r cychwr, ar ol brwydr y dreth eglwys oedd yn gymhwys i'r offeiriad. Gwnaeth bob egni i gael gan fy mam i roi'r fferm i fynu o'i bodd. Gwrthododd roi telerau mewn un modd. Ychwanegodd y goruchwyliwr. Your son annoys Sir Watkin.' Codwyd yn rhent tenant arall, yr hwn oedd wedi gwrthod talu'r dreth, a'r unig un yn y plwyf oedd wedi gwrthod heb roi yr un rheswm."[1]
- ↑ Gweler hefyd Landlordiaeth yn Nghymru gan T. J. Hughes, Adfyfr (a adargraffwyd yn bamffled), o'r Traethodydd am Gorffennaf a Medi, 1887, ar yr un pwnc.