Tudalen:Cwm Eithin.djvu/51

Gwirwyd y dudalen hon

Yn y gyfrol Letters and Essays on Wales, 1884, gan Henry Richard, ceir llawer o eglurhad ar berthynas y tyddynwyr a'r tirfeddiannwr yng Nghymru yn dangos, 1. Paham y glynent mor ffyddlon i'r hen deuluoedd, disgynyddion yr hen bendefigaeth, ac na ddechreuasant dalu eu rhent â phlwm; 2. Paham y daeth y gagendor rhyngddynt, ac y daeth y boneddigion i edrych i lawr ar y Cymry uniaith, ac i'w trin mor annynol; 3. Condemniad llym Apostol Heddwch—y tyneraf o bawb—ar orthrwm y tirfeddiannwr.

Peth arall oedd yn gorthrymu'r ffermwyr a'r gweithwyr oedd y cyfreithiau annheg ac unochrog a wnaethpwyd ac a weinyddid gan y tirfeddianwyr. Nid oedd yn bosibl i'r tlawd gael cyfiawnder a chware teg. Fe ganodd Lewis Morris "Ddeg gorchymyn y traws—gyfoethog," a "Deg gorchymyn y dyn tlawd, y rhai nid ydynt yn yr xx. Bennod o Exodus." Rhoddwn yma rai o orchmynion y dyn tlawd fel y'u ceir yn y Diddanwch Teuluaidd, casgliad "Huw Llangwm " (1763):—

Dy Feistr—tir a fydd dy Dduw,
Nid ydwyt wrtho fwy nâ Dryw;
Ond ar ei Dir yr wyt yn byw?

Addola'r Stiwart tra bych byw,
Delw gerfiedig dy Feistr yw ;
Mae Stiwart mawr yn ddarn o Dduw,

Dos tros hwn trwy Dân a Mwg,
Gwylia ei ddigio rhag ofn drwg;
Gwae di byth os deil o wg.

Diwedda gyda'r deisyfiad:

Arglwydd wrthyf trugarha,
Os Llonydd genyt ti a ga',
Mi dala'r Rhent pan werthwy 'Nâ.

Rhaid addef i'r gweithwyr ddyfod i gredu nad oeddynt yn cael eu rhan tua hanner olaf y ganrif ddiweddaf. Clywais yr hen bobl, pan oeddwn yn hogyn, yn cwyno nad oedd yr un teimladau da rhwng y ddau ddosbarth ag a fodolai yn yr hen amser gynt, pan alwai y gwas a'r forwyn hwy F'ewyrth a Modryb.