Tudalen:Cwm Eithin.djvu/52

Gwirwyd y dudalen hon

Pan ddechreuwyd eu galw yn Feistr a Meistres, fe gollwyd rhyw ofal am y gwas a'r forwyn. Tirfeddiannaeth, deddfau'r tir, gorthrwm y meistr, colli'r mynyddoedd, dyma'r pethau sydd wedi bod yn felltith yng Nghwm Eithin.

Ond dyweder a fynner am Gwm Eithin a'i drigolion, magwyd glewion yno; a pha faint bynnag oedd eu horiau hamdden, yr oeddynt yn bobl ddarllengar iawn, yn ddiwinyddion goleuedig, yn ddynion parod i ymladd dros eu hegwyddorion. Yno y magwyd arwyr y degwm, a hwy, o bawb, a ddangosodd i'r awdurdodau fod oes dioddef gorthrwm wedi dyfod i ben. Ni wreiddiodd ysbrydiaeth benderfynol Thomas Gee yn well yn un rhan o'r wlad nag yng Nghwm Eithin. Goddefodd hen gyfoedion i mi gael eu hanfon i garchar Rhuthyn yn hytrach na pharhau i ymostwng i gyfraith orthrymus oedd wedi dyfod i lawr o'r Oesoedd Tywyll.

Credaf fy mod wedi ysgrifennu digon bellach i ddangos mor galed oedd byd y ffarmwr, fel na wnaf gam ag ef wrth geisio disgrifio byd caled y gwas a'r forwyn i genhedlaeth newydd na ŵyr lawer am y cyfnod y cyfeiriaf ato, fel y'i cofir gan un o blant y gorthrwm.